Hen Goleg Aberystwyth
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Aberystwyth heno i drafod y cynlluniau ar gyfer ail-ddatblygu Hen Goleg y dref.

Cafodd y cynlluniau eu cyflwyno i Gronfa Dreftadaeth y Loteri fis Rhagfyr y llynedd fel rhan o gais am £9.93 miliwn o gymorth.

Cydweithiodd y Brifysgol ag aelodau o Gyngor y Brifysgol, staff y Brifysgol, a chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberystwyth, UMCA a Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr.

1872

Gwesty oedd yr adeilad yn wreiddiol, ac fe aeth y myfyrwyr cyntaf yno yn 1872 ar ôl i’r Brifysgol brynu’r safle pan gafodd prifysgol gyntaf Coleg Prifysgol Cymru ei sefydlu.

Adeilad rhestredig Gradd I yw’r Hen Goleg, ac roedd ei arddull adfywiad Gothig yn ei wneud yn un o adeiladau mwyaf arwyddocaol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng ngwledydd Prydain.

Mae disgwyl i’r gwaith adfywio gael ei gwblhau erbyn i’r Brifysgol ddathlu ei phen-blwydd yn 150 oed yn 2022.

‘Mewnbwn y gymuned leol’

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth, Louise Jagger: “Mae gwaith Bwrdd Prosiect Bywyd Newydd i Hen Goleg wedi derbyn mewnbwn y gymuned leol ac rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb a gafwyd yn y gwahanol gyfarfodydd a digwyddiadau a gynhaliwyd fel rhan o’r broses o ddatblygu’r cynlluniau cyffrous hyn.

“Mae’r rhain wedi ein helpu i nodi anghenion a chyfleoedd ar gyfer ail-lunio’r adeilad, a llywio ein penderfyniad i agor dros 75% ohono i’r cyhoedd ynghyd â chyfleusterau addysgu a chymorth i fyfyrwyr.

“Rydym am annog perthynas agosach rhwng y Brifysgol a’r dref a darparu cyfleuster gwych i arddangos cyfleoedd dysgu, ymchwil a menter a fydd yn ysbrydoli a rhoi hwb i’r economi.”

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn yr Hen Goleg am 5.30yh nos Iau, 21 Ionawr.