Mae oedi wrth gynnal profion meddygol mewn achosion o gam-drin rhywiol yn tanseilio ymchwiliadau i ddiogelu plant, yn ôl adroddiad ôl-arolygiad o waith Heddlu Dyfed Powys sydd wedi’i gyhoeddi heddiw.

Er bod gwelliannau wedi cael eu gwneud ers yr adroddiad cychwynnol ym mis Rhagfyr 2014, mae’r adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) yn dweud bod “y cynnydd, ar y cyfan, yn siomedig.”

Roedd yr adroddiad cychwynnol o waith diogelu plant Heddlu Dyfed Powys wedi dangos bod ymrwymiad clir i ddiogelu plant ond roedd hefyd yn nodi nifer o fannau a oedd yn peri pryder, gan gynnwys oedi yn yr ymchwiliadau i nifer o achosion o ddiogelu plant.

Yn yr adroddiad mae HMIC hefyd yn nodi bod yna oedi wrth archwilio cyfrifiaduron a dyfeisiau eraill, a bod swyddogion sydd heb yr hyfforddiant priodol  yn ymchwilio i rai achosion.

Roedd yr adroddiad hefyd yn feirniadol o’r ffaith bod plant yn cael eu cadw yn y ddalfa dros nos heb reswm, a bod gwaith cofnodi yn y ddalfa o safon isel.

‘Angen gwelliannau’

Dywedodd Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, Wendy Williams: “Ers ein harchwiliad diwethaf, mae’n amlwg bod Heddlu Dyfed Powys wedi gwella rhai gwasanaethau sy’n hanfodol i ddiogelu plant.

“Mae yna gynnydd wedi bod yn nifer y staff sy’n gweithio mewn unedau diogelu plant arbenigol, sydd wedi gwella’r gwasanaethau mae plant yn eu derbyn.

“Mae hefyd wedi gwneud ymdrechion i leihau nifer y plant sy’n cael eu cadw yn y ddalfa.. a gwelliannau arbennig yn y ffordd mae’r llu yn cofnodi achosion o drais yn y cartref.

“Mae’r gwelliannau yma’n galonogol, ond mae dal angen gwelliannau i nifer o wasanaethau.

“Mae’r oedi mewn nifer o wasanaethau, fel profion meddygol fforensig, ac archwilio dyfeisiau ac offer cyfrifiadurol, yn parhau i danseilio ymchwiliadau.

“Yn ogystal, er bod gostyngiad yn nifer y plant sy’n cael eu cadw yn y ddalfa oherwydd iechyd meddwl, mae’n rhaid i’r llu leihau’r cyfanswm sy’n cael eu cadw yn y ddalfa dros nos.”

‘Blaenoriaeth’

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed Powys Christopher Salmon bod “plant bregus a phob ifanc yn flaenoriaeth” iddo.

“Rwy’n croesawu adroddiad HMIC ac mae’r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud yn galonogol.

“Mae gwelliannau i ddod gan gynnwys cyflwyno gwasanaeth newydd sy’n rhoi cymorth arbenigol i blant a phobl ifanc sydd ar goll.

“Fe fyddaf yn parhau i graffu ar waith y Prif Gwnstabl i sicrhau bod gwelliannau pellach yn cael eu gwneud.”