Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cyhoeddi’r enwau sy’n ymddangos ar y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Dewi Sant blynyddol eleni.

Mae’r gwobrau, sy’n cael eu rhoi am y drydedd flwyddyn, wedi’u rhannu’n saith categori – Dewrder, Dinasyddiaeth, Diwylliant, Menter, Arloesedd a Thechnoleg, Rhyngwladol, Chwaraeon a Pherson Ifanc.

Dewrder

Mae’r categori Dewrder yn rhoi cydnabyddiaeth i dri pherson sydd wedi dangos nodweddion anhunanol ac arwrol mewn sefyllfaoedd peryglus.

Cafodd Peter Fuller ei enwebu am atal ymosodiad â machete ar Dr Sarandev Bhambra yn archfarchnad Tesco yn yr Wyddgrug ym mis Ionawr 2015.

Safodd Matthew James o Bontypridd o flaen ei bartner Saera Wilson yn ystod ymosodiad brawychol ar draeth yn Nhiwnisia haf diwethaf.

Mae’r Cwnstabliaid Owen Davies a Rhiannon Hurst o Heddlu Gwent wedi’u henwebu am eu hymdrechion i achub wyth aelod o’r un teulu yn dilyn tân yng Nghasnewydd.

Dinasyddiaeth

Mae casglwyr arian, gofalwraig maeth a sylfaenydd elusen wedi’u henwebu yn y categori Dinasyddiaeth.

Cafodd Grant, June ac Owain Thomas o Oakdale eu henwebu am eu hymdrechion i godi arian ar gyfer elusen Cardiac Risk in the Young.

Gofalwraig maeth yw Janet Williams o Borthmadog, ac mae hi wedi gofalu am dros 100 o blant dros y 35 mlynedd diwethaf, gan sefydlu Cymdeithas Gofalwyr Maeth Gwynedd.

Sylfaenydd elusennau Operation Christmas Child a Teams4u yw Dave Cooke o Wrecsam, ac mae e’n cael ei gydnabod am ei waith mewn cymunedau bregus wrth geisio trawsnewid bywydau drwy addysg ac iechyd.

Diwylliant

Arweinydd cerddorfa, cerddor a bardd sydd wedi’u henwebu yn y categori Diwylliant.

Mae Owain Arwel Hughes wedi’i enwebu am ei wasanaeth eithriadol i’r byd cerddoriaeth.

Mae canwr y Super Furry Animals, Gruff Rhys wedi’i gydnabod am fod yn eicon Cymreig ac am ei waith gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru.

Y bardd Owen Sheers o’r Fenni sy’n cwblhau’r rhestr ac mae yntau’n cael ei gydnabod am ei waith fel bardd ac awdur.

Menter

Gwneuthurwr dyfeisiau meddygol, cadeirydd cwmni gweithgynhyrchu bwyd a garddwriaethwr sydd wedi dod i’r brig yn y categori Menter.

Cafodd Dominic Griffiths ei enwebu am sefydlu Alesi-Surgical (Asalus gynt) ac am chwyldroi’r ffordd y mae mwg llawfeddygol yn cael ei drin yn dilyn llawdriniaethau laparosgopig.

Cadeirydd KK Foods yng Nglannau Dyfrdwy, Dr Graham Jackson yw’r ail enw ar y rhestr fer yn y categori hwn, ac fe fu’n gyfrifol am gynyddu trosiant y cwmni bob blwyddyn ac am helpu elusennau lleol gan gynnwys Blind Veterans UK, Cancer Relief ac Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.

Y garddwriaethwr Ian Sturrock sy’n cwblhau’r rhestr fer, ac mae e wedi’i enwebu am ei fodel busnes unigryw o ddiogelu a gwerthu coed ffrwythau Cymreig, gwarchod garddwriaeth Gymreig a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd tyfu eu cynnyrch eu hunain.

Arloesedd a Thechnoleg

Peiriannydd fideo, tîm digidol y Swyddfa Ystadegau Gwladol a phenaethiaid cwmni ynni a ddaeth i’r brig yn y categori Arloesedd a Thechnoleg.

Peiriannydd fideo o Ynys Môn yw Geraint Davies, sydd wedi ei enwebu am ei rôl wrth ddatblygu elfen o’r ap fideo amser real, Periscope.

Mae tîm digidol ONS, y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd wedi’u henwebu am eu dull arloesol o adeiladu platfform newydd sy’n cyhoeddi ystadegau.

Yn cwblhau’r rhestr fer mae Dr Graham Foster a Dr Gareth Stockman, cadeirydd a chyfarwyddwr technegol, a rheolwr gyfarwyddwr cwmni  ynni adnewyddadwy Marine Power Systems.

Maen nhw wedi eu henwebu am eu gwaith o ddatblygu trawsnewidydd ynni tonnau WaveSub, dyfais ail genhedlaeth sy’n cynnig atebion i’r heriau sydd ynghlwm wrth echdynnu ynni’r tonnau.

Rhyngwladol

Wedi’u henwebu yn y categori Rhyngwladol mae cynhyrchydd teledu, arbenigwr rheoli dŵr ac actor byd enwog.

Mae Julie Gardner yn gynhyrchydd teledu o Gastell-nedd, ac mae hi’n cael ei chydnabod am godi proffil cynhyrchu dramâu teledu yng Nghymru ar draws y byd.

Un o ogledd-orllewin Cymru yw Dewi Rogers, sydd wedi arbed biliynau o litrau o ddŵr bob blwyddyn yn sgil ei arbenigedd ym maes rheoli dŵr.

Yr actor Matthew Rhys o Gaerdydd sy’n cwblhau’r rhestr fer, ac mae’n cael ei gydnabod am hyrwyddo Cymru a Chymreictod gartref a thramor.

Chwaraeon

O feysydd rygbi a phêl-droed y daw’r tri sydd ar y rhestr fer yn y categori Chwaraeon.

Mae Gareth Bale wedi’i enwebu am ei rôl fel pêl-droediwr blaenllaw ac am ei ran yn llwyddiant tîm Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc eleni.

Rheolwr Bale yn nhîm Cymru, Chris Coleman yw’r ail enw ar y rhestr fer.

Yn cwblhau’r rhestr fer Chwaraeon mae Dan Biggar, maswr Cymru a’r Gweilch sydd wedi’i enwebu am ei gyfraniad i’r tîm cenedlaethol yng Nghwpan Rygbi’r Byd llynedd.

Person ifanc

Peiriannydd, dyfeiswyr ap arloesol a gwirfoddolwr sydd wedi’u henwebu yn y categori Person Ifanc.

Mae Sion Eifion Jones, peiriannydd o Langadfan ym Mhowys, wedi ei enwebu am ddatblygu ei sgiliau peirianyddol yn fusnes gyda’r peiriant “Ffensiwr Clyfar” sydd wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Arloesedd Myfyrwyr CBAC.

Mae tîm ‘Ed Up’ – Tîm Menter Ysgol Gyfun yr Olchfayn griw o 12 o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Olchfa yn Abertawe, ac maen nhw wedi dyfeisio ap arloesol i helpu disgyblion TGAU i adolygu.

Carwyn Williams, gwirfoddolwr  o Landudno, sy’n cwblhau’r rhestr fer, ac mae yntau wedi ei enwebu am chwyldroi ei fywyd drwy wirfoddoli. Yn ddiweddar, fe enillodd wobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn Cymru yng Ngwobrau Cenedlaethol StreetGames.

‘Criw eithriadol’

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Unwaith eto, mae teilyngwyr gwobrau Dewi Sant yn griw eithriadol o bobl. Bydd hi’n anodd dewis yr enillwyr; mae pob un ohonyn nhw’n gaffaeliad i Gymru.

“Hoffwn ddiolch i bawb a enwebodd rhywun yn y gwobrau eleni, rydych chi wedi cyflwyno pobl wych. Rwy’n edrych ymlaen at nodi’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn y brif seremoni wobrwyo ym mis Mawrth.”