Simon Thomas AC
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei chynlluniau i greu 50,000 o brentisiaethau newydd dros y pum mlynedd nesaf pe bai mewn grym wedi’r etholiadau ym mis Mai.

Roedd ei llefarydd ar addysg, Simon Thomas AC, yn siarad yn Academi Hyfforddiant Nwy Prydain yn Nhredegar heddiw a dywedodd y byddai ei blaid yn defnyddio cyfran Cymru o’r ardoll prentisiaethau i greu’r rhai newydd.

Yn ôl y blaid, mae disgwyl i’r ardoll ddod a thua £150m i Gymru bob blwyddyn o ganlyniad i gynnydd mewn gwariant yn Lloegr.

Dywedodd Simon Thomas y byddai’r blaid yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yng Nghymru rhwng 16 a 24 oed, sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant, er mwyn ‘gwella cyfleoedd’ i’r genhedlaeth nesaf.

 

‘Creu cyfleoedd’

“Ar hyn o bryd, nid yw 12,200 o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed mewn addysg, gwaith na hyfforddiant yng Nghymru. Maen nhw’n cynrychioli un o bob 10 o bobl ifanc o fewn yr oed hwnnw,” meddai Simon Thomas AC.

“Credwn fod prentisiaethau yn cynnig trywydd yr un mor werthfawr i waith a graddau prifysgol, ac rydym yn anelu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y ddau drywydd hyn.

“Mae prentisiaethau hefyd yn fuddsoddiad economaidd gwych. Yn ôl Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru maen nhw’n darparu £74 yn ôl am bob £1 sy’n cael ei fuddsoddi.”

Dywedodd hefyd y byddai ‘creu cyfleoedd ystyrlon’ o fudd i’r gweithlu yng Nghymru ac economi’r genedl.

“Byddai’r buddsoddiad allweddol hwn yn nyfodol ein pobl ifanc yn rhoi hwb i obeithion y genhedlaeth nesaf, cau’r bwlch sgiliau mewn sectorau hollbwysig megis peirianneg a chyfrifiadureg, a gwella iechyd yr economi Gymreig.”