Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad wedi dod i’r casgliad bod dau Aelod Cynulliad wedi torri’r cod ymddygiad ar gyfer ACau.

Mae’n dilyn cwyn yn erbyn y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford AC a Jenny Rathbone AC yn ymwneud a’u penodiad yn Gadeiryddion ar Bwyllgor Monitro Rhaglenni Ewropeaidd Cymru Gyfan yn y gorffennol, a’u methiant i ddweud wrth y Cofrestrydd.

Golyga hyn bod yr aelodau wedi methu â chofrestru eu holl fuddiannau perthnasol, er mwyn nodi’n glir unrhyw rai a fyddai’n gallu dylanwadu ar eu gwaith.

Er bod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi dod i’r casgliad bod y ddau wedi torri’r cod, ni fydd unrhyw gamau pellach yn eu herbyn gan fod y pwyllgor yn derbyn mai ‘camgymeriad’ oedd y cwbl a bod y wybodaeth yn gyhoeddus.

Bydd adroddiad y Pwyllgor ar yr achos yn cael ei drafod yn ystod Cyfarfod Lawn y Senedd ddydd Mercher nesaf, 27 Ionawr.