Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi dod yn drydydd mewn rhestr o gyflogwyr ym Mhrydain sy’n hyrwyddo amrywiaeth lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LGBT).
Cafodd y sefydliad ei enwi fel y Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru i bobol LGBT hefyd am y trydydd tro yn olynol ar restr y grŵp, Stonewall.
Am y tro cyntaf eleni, mae’r mudiad sy’n ymgyrchu dros hawliau LGBT wedi cynnwys pobol trawsryweddol yn ei astudiaeth.
“Roeddwn yn falch iawn o glywed, yn gynharach eleni, fod Stonewall yn bwriadu cynnwys materion trawsryweddol yn ei gylch gwaith,” meddai’r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.
“Bydd cynnwys mesurau ar yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar gyfer staff a defnyddwyr gwasanaethau trawsryweddol yn y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn arwain yn naturiol at ganlyniadau gwell ar gyfer y gymuned.”
‘Yn dyst i waith caled staff’
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyson wedi llwyddo i fod ymhlith y 100 o gyflogwyr gorau ac mae’r sefydliad wedi gwella ei safle bob blwyddyn.
“Mae bod yn drydydd mewn maes mor gystadleuol o gyflogwyr ledled Prydain Fawr yn dyst i arweinyddiaeth glir a gwaith caled gan dîm ymroddedig o staff.”
MI5 ar y brig
Y Gwasanaeth Diogelwch, MI5, gafodd ei enwi fel y cyflogwr gorau ym Mhrydain i bobol LGBT, gyda Grwp Bancio Lloyd’s yn ail.
Y pum cyflogwr gorau yng Nghymru oedd banc Lloyd’s, y Cynulliad, Cymorth i Ddioddefwyr, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd.