Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot
Cynyddu’r mae’r feirniadaeth o’r modd yr oedd Llywodraeth Prydain wedi mynd i’r afael a’r argyfwng yn y diwydiant dur yn dilyn cyhoeddiad cwmni dur Tata ddoe eu bod yn cael gwared a mwy na 1,000 o swyddi, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn Ne Cymru.

Fe gyhoeddodd Tata eu bod yn cael gwared a 750 o swyddi ym Mhort Talbot, 127 o swyddi yn Llanwern ger Casnewydd, a 15 yn Nhrostre yn Llanelli, yn ogystal â Corby a Hartlepool.

Ar raglen Newsnight y BBC neithiwr, fe rybuddiodd yr actor o Bort Talbot, Michael Sheen am yr effaith y bydd y diswyddiadau yn eu cael ar y dref, gan alw ar Lywodraeth David Cameron i wneud mwy.

“Mae’n gyfnod pryderus iawn i’r dref,” meddai Michael Sheen, gan alw ar y Llywodraeth i fod yn “onest” os ydyn nhw am adael i’r diwydiant “farw yn dawel.”

“Mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu ond dydy eu geiriau na’u gweithredoedd yn cyd-fynd.”

Mae bron i 5,000 o swyddi bellach wedi diflannu yn y diwydiant dur yn y DU ers yr haf wrth i gwmnïau geisio ymdopi â chostau ynni uchel, cyfraddau busnes a mewnforion rhad o China.

Galwodd prif weithredwr Tata yn Ewrop, Karl Koehler, ar y Comisiwn Ewropeaidd i atal mewnforion sy’n ‘bygwth’ y diwydiant cyfan.

Cameron yn amddiffyn

Mae Llywodraeth Prydain wedi cael ei beirniadu am beidio â gwneud digon, gyda Llywodraeth Cymru hefyd yn galw arnyn nhw i weithredu.

Er hyn, fe wnaeth y Prif Weinidog David Cameron amddiffyn ei lywodraeth gan ddweud ei bod wedi gweithredu ar brisiau ynni, caffael a gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Rwyf am gael diwydiant dur cryf ym Mhrydain sydd wrth wraidd ein sylfaen gweithgynhyrchu pwysig,” meddai.

Ond dywedodd llefarydd busnes y Blaid Lafur, Angela Eagle, nad oedd y Llywodraeth wedi  gweithredu ar hyn.

Gyda galwadau cynyddol ar i Lywodraeth Cymru wneud mwy hefyd, mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi sefydlu tasglu a fydd yn cyfarfod ddydd Mercher i lunio cynllun gweithredu i gefnogi’r gweithwyr.

Y rhai sydd ar ôl ‘angen sicrwydd’

Mae gweithwyr a busnesau ym Mhort Talbot bellach wedi dweud bod angen sicrwydd gan Tata am ddyfodol swyddi tua 3,000 o’r staff sy’n parhau ar y safle yn dilyn y diswyddiadau ddoe.

“Yma ym Mhort Talbot, rydym yn gwneud un o’r mathau o ddur gorau yn y byd, ond mae mewnforion rhad o China a phrisiau ynni uchel yn niweidio ein diwydiant,” meddai Alan Coombs, gweithiwr ar y safle a llywydd yr undeb Community.