Leighton Andrews
Mae Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru am weld Llywodraeth y DU yn gwneud gwelliannau i’w deddfwriaeth er mwyn sicrhau nad yw gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n cael eu heffeithio gan y Bil Undeb Llafur.

Mae Leighton Andrews wedi ysgrifennu at Nick Boles AS, Gweinidog Gwladol yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn rhybuddio am yr effaith negyddol y gallai’r Bil ei gael yng Nghymru.

Mae ei welliannau yn cynnwys neilltuo’r sector cyhoeddus yng Nghymru rhag cyflwyno trothwy o 40% o gefnogaeth aelodau cyn gweithredu’n ddiwydiannol yn y ‘gwasanaethau cyhoeddus pwysig’.

Mae hefyd am i Gymru gael ei neilltuo rhag cyflwyno gofynion a chyfyngiadau ar amser i weithgarwch yr undeb llafur yn y sector cyhoeddus.

Yn ogystal mae am weld gwelliannau i’r trefniadau lle mae dyledion yn cael eu talu o gyflogau pobol yn y sector cyhoeddus.

‘Niweidio’r bartneriaeth’

“Bydd y Bil yn niweidio’r bartneriaeth gymdeithasol tuag at gysylltiadau diwydiannol o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ry’n ni’n credu mai gweithio’n adeiladol gyda’r Undebau Llafur yw’r ffordd orau i sicrhau bod cyrff yn y sector cyhoeddus yn darparu gwasanaethau’n effeithiol i’r cyhoedd,” meddai Leighton Andrews.

“Mae’n amlwg i ni nad yw’r Mesur yn ymwneud yn gyfan gwbl â materion sydd heb eu datganoli. Mae’n ymwthio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig , y mae gan Gymru’r hawl i ddatblygu ei dull ei hun.”

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd wedi mynegi ei bryderon am y Bil Undeb Llafur gan ysgrifennu at David Cameron fis Medi diwethaf yn nodi effaith y Bil ac y dylai fod yn fater i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.