Daeth cadarnhad heddiw bod cwmni dur Tata yn cael gwared a mwy na 1,000 o swyddi.

Fe fydd y rhan fwyaf o’r diswyddiadau yn eu safle ym Mhort Talbot lle bydd 750 o weithwyr yn colli eu swyddi.

Bydd 127 o swyddi hefyd yn cael eu colli yn Llanwern ger Casnewydd,  a 15 yn Nhrostre yn Llanelli, yn ogystal â Corby a Hartlepool.

Mae nifer wedi mynegi eu siom a’u dicter gan gyhuddo Llywodraeth y DU o beidio gwneud digon i geisio atal y diswyddiadau. Mae ’na bryderon hefyd am yr effaith ar yr ardal leol.

‘Ysgytwad’

Fe ddywedodd cynghorydd ward Port Talbot, Dennis Keogh, fod y cyhoeddiad hwn yn ysgytwad i’r ardal.

Cyn ymuno â’r cyngor, fe arferai yntau weithio yn y diwydiant dur, ac esboniodd “pan gefais i fy niswyddo blynyddoedd yn ôl, fe gymerodd amser imi gael swydd unwaith eto, roedd rhaid imi ailhyfforddi.”

“Lle mae’r gweithwyr hyn i gyd yn mynd i gael gwaith? Maen nhw wedi’u hyfforddi i gynhyrchu dur.

“Dw i’n bryderus iawn am y dyfodol, ac yn meddwl fod y llywodraeth wedi eistedd ar eu dwylo am rhy hir.”

Fe gyfeiriodd at fewnforio dur rhad o China fel craidd y broblem.

“Mae’n disodli ein diwydiant ni, ac maen nhw’n ei werthu am bris rhatach na allwn ni ei gynhyrchu.”

Fe gyfeiriodd at gyfraniad gwaith dur Tata at “economi de Cymru gyfan” gan gynnwys busnesau fel gwneuthurwyr dur, contractwyr, adeiladwyr, y siopau a’r caffis sy’n ddibynnol ar wariant y gweithwyr.

Un o’r contractwyr hynny yw Pump Supplies Port Talbot, ac fe ddywedodd eu llefarydd wrth golwg360: Mae’n rhy gynnar i wybod sut effaith mae hyn yn mynd i gael ar ein busnes.

“Mae’n siom fawr, a phwy a ŵyr beth fydd yn digwydd i’n busnes ni yn y pendraw.”

Galw am brotest ym Mrwsel

Mae undeb llafur y GMB wedi dweud y byddan nhw’n herio cyhoeddiad cwmni dur Tata heddiw, ac yn galw am brotest ym Mrwsel ganol mis Chwefror.

Eu bwriad yw annog y Comisiwn Ewropeaidd i fynd i’r afael â mewnforio dur o China, ac maen nhw’n gobeithio cynnal y brotest ar Chwefror 15.

Maen nhw’n dweud fod mewnforio dur am brisiau rhad yn gadael ei effaith ar economi dur y DU, ac maen nhw’n galw ar y Llywodraeth a’r Comisiwn Ewropeaidd “i ddeffro a rhoi’r gorau i siarad am ein problemau, ond yn hytrach i ymyrryd gyda gweithredu cadarnhaol.”

“Dyma ddangos fod y llywodraeth hon yn cysgu pan mae’n dod at broblemau difrifol fel y rhain,” meddai Dave Hulse, Swyddog Cenedlaethol GMB.

“Rydyn ni’n gweld cymunedau lleol yn cael eu difetha a chwmnïau yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu gorfodi allan o fusnes.”

“Mae hwn yn gyfnod hynod o dyngedfennol i’r diwydiant dur ac i’n haelodau. Er nad oes bai arnyn nhw [y gweithwyr], maen nhw’n cael eu gwthio allan i giwiau’r dôl wrth inni ddisgwyl am gamau gweithredu.”

‘Teimlad o anobaith’

Fe ddywedodd Carl Lucas, swyddog rhanbarthol yr undeb llafur, Unite the Union, fod yna “deimlad o anobaith” ym Mhort Talbot heddiw.

“Mae’r ymateb fel byddech chi’n ei ddisgwyl wrth i gymaint golli eu swyddi, mae’n sioc anferthol i ddechrau.”

Ond, fe ddywedodd ei fod yn pryderu am ddyfodol y diwydiant dur yn y DU.

“Os na all y cwmni gystadlu gyda’r farchnad fyd-eang, does dim gwahaniaeth faint o ddiswyddiadau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, oherwydd fe fydd yna doriadau pellach a dyfnach eto.”

Dyma’r trydydd tro i weithwyr gwaith dur Tata ym Mhort Talbot weld cyfnod o aildrefnu staffio yn y pedair blynedd diwethaf, ac fe ddywedodd Carl Lucas fod angen i’r Llywodraeth ymyrryd.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n fater i Lywodraeth y DU yn bennaf, oherwydd mae’n ymwneud â chynhyrchu a chyflogaeth. Ond, mae gan Lywodraeth Cymru a’r llywodraeth Ewropeaidd rôl i’w chwarae hefyd.”

Esboniodd y dylai’r llywodraeth gymryd camau i gyflwyno cyfyngiadau ar y dur sy’n cael ei fewnforio o China.

“Mae dur yn cael ei ddefnyddio mewn cymaint o agweddau o’n bywyd, boed melinau gwynt, adeiladu ffyrdd, llinellau rheilffyrdd a llawer mwy – a dylai dur y DU gael ei ddefnyddio i hynny.”

‘Amseroedd anodd’

Fe ddywedodd llefarydd yr Economi Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod “colli’r swyddi hyn yn cael effaith enfawr ar yr ardaloedd hyn, a’r her yn awr yw i Lywodraeth Cymru wneud popeth y gall i leihau’r effaith.”

Fe ddywedodd fod Plaid Cymru am weld cefnogaeth ar unwaith i’r rhai sy’n wynebu colli eu swyddi, ac i Lywodraeth Cymru edrych fel mater o frys ar bob dewis i gefnogi’r diwydiant dur.

“Rhaid i hynny gynnwys ystyried a allai Llywodraeth Cymru gymryd cyfranddaliad dros dro yn y cwmni, mynd i gydbartneriaeth gyda Tata i helpu i amddiffyn gweithwyr a’r diwydiant hollbwysig hwn i’w helpu i oroesi’r amseroedd economaidd anodd hyn. Dylai hynny fod yn ychwanegol at geisio help ar ynni, trethi busnes a gweithredu ar lefel yr UE.

“Y mae dyfodol disglair i ddur yng Nghymru, ond mae angen help rhag blaen i’n cael drwy’r amseroedd anodd hyn.”