Chris Bryant
Mae Aelod Seneddol y Rhondda Chris Bryant yn dweud ei fod yn cefnu ar yr Eglwys Anglicanaidd unwaith ac am byth yn dilyn eu datganiad ddoe am briodasau hoyw.

Yn ôl y gwleidydd Llafur, sy’n gyn-offeiriad Anglicanaidd, roedd y datganiad gan gyfarfod o holl archesgobion y cyfundeb yn un “heb gariad”.

Mewn neges Twitter fe gymharodd safbwynt yr Eglwys ar wrthwynebu priodasau hoyw â ‘chefnogi caethwasiaeth’, gan ddweud y byddai’r ddau beth yn cael eu gweld yn anghywir rhyw ddydd.

Mewn sylw pellach ar y wefan gymdeithasol, fe awgrymodd Chris Bryant nad oedd yr Eglwys yng Nghymru wedi dangos agwedd dim mwy ‘goleuedig’ ar y mater yn dilyn cyfarfod yr archesgobion ddydd Iau.


Rhwyg rhwng aelodau

Mewn cyfarfod ddoe fe benderfynodd archesgobion Anglicanaidd feirniadu eglwysi’r Gymundeb yn yr Unol Daleithiau am fod o blaid priodasau hoyw.

Yn hwyrach, fe aildrydarodd Chris Bryant neges oedd yn mynegi sioc bod yr Eglwys Anglicanaidd wedi cefnogi safbwynt Eglwys Uganda, sydd yn chwyrn yn erbyn priodasau hoyw, yn hytrach nag eglwysi ‘agored’ yr Unol Daleithiau.

Cafodd Eglwys Esgobol yr Unol Daleithiau ei gwahardd rhag bod yn rhan o gyrff gwneud penderfyniadau Anglicanaidd am gyfnod o dair blynedd.

Ond fe wrthododd yr archesgobion gynnig hefyd gan Archesgob Uganda a fyddai wedi gwahardd eglwysi’r Unol Daleithiau a Chanada o weithgareddau’r Gymundeb yn gyfan gwbl.