Mark Drakeford, y Gweindog Iechyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud ei bod hi’n debygol y bydd dau fwrdd iechyd yng Nghymru yn gorwario eleni.

Gwnaeth Mark Drakeford AC y cyhoeddiad  gerbron Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad heddiw, gan nodi nad yw e’n barod i roi arian ychwanegol iddyn nhw y tro hwn.

Y sefydliadau sy’n debygol o or-wario eleni yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Y llynedd roedd byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a’r Fro wedi gorwario, er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £240m yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd.

Yn y cyfarfod heddiw, dywedodd y Gweinidog ei fod yn hyderus y bydd y byrddau iechyd yn gwario o fewn eu cyllidebau yn ystod 2016/17.

“A yw hyn yn golygu y bydd pob sefydliad yn gwario o fewn ei gyllideb? Na, dydy e ddim yn golygu hynny,” meddai wrth y pwyllgor.

“Ac mae gennyf llai o hyder y bydd rhai sefydliadau yn gwario o fewn y cyllidebau sydd wedi’u rhoi iddyn nhw eleni.”

Dyled o £19.7m

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn rhagweld y bydd ganddo ddiffyg ariannol o £19.7 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16, sy’n 1.5% o’i gyllideb.

“Er bod hyn wrth reswm yn siomedig,  mae’n cynrychioli’r heriau gweithredol sylweddol sy’n effeithio’r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys yr amgylchiadau unigryw hynny sydd wedi arwain at roi’r Bwrdd Iechyd o dan fesurau arbennig,” meddai Russell Favager, Cyfarwyddwr Cyllid y Bwrdd Iechyd.

“Bydd penodi Prif Weithredwr parhaol, ynghyd â datblygu strategaeth yn y tymor canolig ar gyfer gwasanaethau clinigol diogel a chynaliadwy yn hollbwysig er mwyn galluogi’r Bwrdd Iechyd i fantoli dros y blynyddoedd sydd i ddod.”

‘Heriau sylweddol’

Dywedodd Steve Moore, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn gweithio’n agos iawn â Llywodraeth Cymru ar gynlluniau i wella ein sefyllfa ariannol.

“Rydym yn ddiolchgar am eu cydnabyddiaeth a’u cefnogaeth wrth i ni wynebu rhai heriau – yn arbennig heriau sylweddol o ran y gweithlu. Rydym yn cydnabod yr angen i fyw o fewn ein modd ac mae gennym gynlluniau arbedion er mwyn dangos gwelliant a chynnydd tuag at ein Cynllun Tymor Canolig Integredig.

“Ar ran y Bwrdd, rwyf hefyd am gydnabod gwaith caled ein staff i gynnal a darparu gwasanaethau diogel, o ansawdd uchel i’n poblogaeth leol yng nghanol yr heriau hyn.”