Mae rhestr newydd o’r 200 o brifysgolion mwyaf ‘rhyngwladol’ y byd wedi cael ei chyhoeddi gan sefydliad y Times Higher Education (THE).

Mae’r rhestr o Safleoedd Prifysgolion y Byd yn dangos bod y nifer fwyaf o’r prifysgolion sydd yn y categori hwnnw yn y Deyrnas Unedig.

Mae pedwar o’r rhain yn brifysgolion yng Nghymru, gyda Phrifysgol Bangor yn dod yn rhif 107 ar y rhestr, Prifysgol Caerdydd yn 126, Prifysgol Abertawe yn 161 a Phrifysgol Aberystwyth yn 162.

Mae’r canfyddiadau wedi’i selio ar nifer y staff a myfyrwyr rhyngwladol sydd yn y brifysgol, ynghyd â nifer y papurau ymchwil mae’r brifysgol wedi’u cyhoeddi sy’n cynnwys o leiaf un awdur o wlad arall.

Roedd gan y Deyrnas Unedig 64 o sefydliadau ar y rhestr, sy’n cynnwys prifysgolion o bob cwr o’r byd a wnaeth gyrraedd y 200 uchaf.

28 o wledydd ar y rhestr

Mae 28 o wledydd wedi’u cynnwys ar y rhestr, gydag Awstralia yn dod yn ail, gyda 24 o sefydliadau wedi’u rhoi ar y rhestr.

Yn ôl y rhestr, y brifysgol fwyaf ‘rhyngwladol’ yn y byd yw Prifysgol Qatar, gyda Phrifysgol Lwcsembwrg yn ail a Phrifysgol Hong Kong yn drydydd.

“Mae rhagolwg sefydliad ar y byd yn un o’r arwyddion allweddol ei fod yn brifysgol glodfawr,” meddai Phil Baty, golygydd Safleoedd Prifysgolion y Byd y Times Higher Education.

“Mae’r sefydliadau gorau yn cyflogi darlithwyr o gwmpas y byd, yn denu myfyrwyr o farchnad fyd-eang o’r dalent gorau ac yn cyd-weithio ag adrannau blaenllaw lle bynnag eu bod.

“Mae pob sefydliad ar y rhestr yn haeddu dathlu – mae cael eich enwi fel un o’r prifysgolion mwyaf rhyngwladol yn y byd yn arwydd o botensial, ac ysbryd cystadleuol.”

Y 10 prifysgol fwyaf ‘rhyngwladol’ yn y Deyrnas Unedig

 

  1. Coleg Imperial Llundain (10fed yn y byd)
  2. Prifysgol Rhydychen (18fed)
  3. Coleg Prifysgol Llundain (18fed hefyd)
  4. Coleg King’s Llundain (20fed)
  5. Prifysgol Essex (21ain)
  6. Ysgol Economeg a Gwyddoniaeth Wleidyddol Llundain (22ain)
  7. Prifysgol Queen Mary Llundain (23ain)
  8. Prifysgol Queen’s Belffast (24ain)
  9. Prifysgol Royal Holloway Llundain (30ain)
  10. Prifysgol Aston (33ain)