Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi amddiffyn toriadau ei lywodraeth i gyllideb y Gymraeg mewn cyfarfod yn y Cynulliad heddiw.

Dywedodd Carwyn Jones wrth aelodau Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad fod y Llywodraeth wedi “blaenoriaethu’r meysydd hynny a fyddai’n cael mwyaf o effaith ar y Gymraeg”.

Dywedodd hefyd nad oedd e’n rhagweld y byddai’r toriadau yn “cael effaith ar yr iaith” o ran ei defnydd a’i hyrwyddo, gan ychwanegu bod angen “osgoi meddwl mai dim ond arian sy’n gallu gwneud gwahaniaeth”.

Ond wfftio hyn wnaeth cadeirydd mudiad Dyfodol i’r Iaith Heini Gruffudd, gan ddweud nad oes “angen toriadau ar ddim byd oni bai bod y llywodraeth yn blaenoriaethu” rhai meysydd yn uwch na’i gilydd.

“Mae’n amlwg eu bod nhw [Llywodraeth Cymru] yn rhoi blaenoriaeth is i’r Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd wrth golwg360.

‘Cynllun 20 mlynedd’

Dywedodd Heini Gruffudd ei fod am weld cynllun ugain mlynedd gan y Llywodraeth ar sut orau i ehangu a hyrwyddo’r Gymraeg.

“R’yn ni’n dal i fod mewn sefyllfa o gynlluniau’n dod fesul blwyddyn, fesul tair blynedd, a thoriadau’n digwydd heb fod gyda ni fap 20 mlynedd ar sut i fynd ati i gynyddu niferoedd ac wedyn ehangu defnydd,” meddai.

Dangosodd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru a gafodd ei gyhoeddi cyn y Nadolig y byddai’r Gymraeg yn derbyn tua £2m yn llai o arian ar gyfer hybu’r iaith yn y gymuned, ac ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg, yn 2016/17.

Byddai hynny’n golygu fod yr arian i hyrwyddo’r iaith yn gostwng o £27.2m yn 2015/16 i £25.6m yn 2016/17 – toriad o 5.9%.

Toriadau i’r Gymraeg yn “anodd”

Cyfaddefodd Carwyn Jones fod y cwtogi hyn am fod yn “anodd” ond dywedodd hefyd y “byddai wedi bod yn fwy anodd” os nad oedd £1.2m yn ychwanegol wedi’i ddyrannu i’r Gymraeg ar ôl Datganiad yr Hydref George Osborne.

“Dyw hi ddim yn achos lle mai’r iaith Gymraeg yw’r unig faes sydd wedi cael toriadau,” meddai wrth y pwyllgor heddiw.

Er y toriad, dywedodd fod y Llywodraeth “wedi cynnwys elfen i ddiogelu’r iaith” a bod y £1.2m ychwanegol yn cyfrannu at hynny.

“Mae e’n anodd, ond mae’n rhaid i ni gofio beth yw’r cefndir neu’r cyd-destun ariannol fan hyn,” meddai.

“Ond wrth ystyried y cyd-destun, r’yn ni wedi ceisio sicrhau bod yr arian yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl, wrth gofio’r ffaith bod ‘na lai o arian ar gael.”

Cyfaddefodd y byddai toriadau ar y mentrau iaith yn “her” hefyd, ond bod y llywodraeth wedi sicrhau “na fydd toriadau swyddi” yn gorfod digwydd.

Asesiadau effaith

Galwodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black AC am asesiadau effaith o’r toriadau i’r Gymraeg er mwyn gallu “craffu’n llawn” ar benderfyniadau’r Llywodraeth.

Ond yn ôl y Prif Weinidog, “dydy hi ddim mor hawdd â hynny” gan fod asesiadau unigol ar bolisïau a rhaglenni unigol.

“Mae’n anodd rhoi asesiad cyffredinol o ystyried ein safbwynt nad ydyn ni’n rhagweld y bydd effaith ar yr iaith yn nhermau ei defnydd a’i hyrwyddo mewn unrhyw achos,” meddai Carwyn Jones.