Stifyn Parri
Mae’r actor a’r cyflwynydd Stifyn Parri wedi cyhoeddi y bydd ei asiantaeth PR a digwyddiadau cyhoeddus, MR PRODUCER, yn dod i ben ym mis Mawrth.

Dywedodd y diddanwr y byddai’n parhau i weithio ar brosiectau ar ei liwt ei hun fodd bynnag, ac nad oedd hi’n “ddiwedd” ar waith y cwmni.

Cafodd yr asiantaeth PR a digwyddiadau creadigol ei lansio 16 mlynedd yn ôl, ac ers hynny maen nhw wedi bod yn gyfrifol am drefnu nifer o ddigwyddiadau mawr gan gynnwys agoriad Canolfan y Mileniwm a chyngerdd croesawu’r Cwpan Ryder.

‘Amser am newid’

Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd Stifyn Parri ei fod yn “diolch o waelod calon” i holl gleientiaid a ffrindiau’r cwmni, ond bod “2016 yn bryd am newid”.

“Rydw i a Lydia [Jones, cyfarwyddwr y cwmni] wedi cytuno i gau swyddfa Llanisien o fis Mawrth 2016,” meddai Stifyn Parri mewn datganiad.

“Fe fydda i’n parhau i weithio fel MR PRODUCER o hynny ymlaen. Fel diddanwr ac entrepreneur llawrydd, fydd pethau ddim yn newid gormod i mi ac fe fydd fy ngwaith fel cyflwynydd ac ymgynghorydd yn parhau.

“Ond wrth roi’r gorau i’r her o reoli cwmni fe fyddai’n gallu buddsoddi mwy o amser yn greadigol mewn prosiectau eraill. Tydi hyn ddim yn ddiwedd ar MR PRODUCER! Cewch chi ddim gwared arna’ i mor hawdd â hynny!”