Mae’r Ceidwadwyr wedi mynnu y byddan nhw’n glynu at eu haddewid i sicrhau dyfodol ariannol S4C yn dilyn rhagor o gwestiynau ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn ystod cwestiynau i Swyddfa Cymru Brynhawn ddydd Mercher fe ofynnodd Mark Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol ar y Lywodraeth Prydain i newid eu meddwl tros gynlluniau i dorri £1.7m o gyllid y sianel.

Ond fe fynnodd y dirprwy weinidog, Alun Cairns, y byddai’r Ceidwadwyr yn cadw at yr addewidion a gafodd eu gwneud ym maniffesto’r blaid y llynedd.

Ac fe gyhuddodd Llafur o ragrith am alw am ragor o gyllid i S4C ar yr un pryd ag yr oedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi toriadau i gyllideb y Gymraeg ym Mae Caerdydd.

‘Gwarthus’

Gofynnodd Mark Williams wrth Alun Cairns a oedd addewid diweddar y prif weinidog David Cameron y byddai’r Ceidwadwyr yn cadw at eu haddewid maniffesto yn golygu na fyddai’r £1.7m bellach yn cael ei dorri o gyllid S4C.

“Fe fyddwn ni’n cadw at ein haddewid maniffesto i sicrhau cyllid ac annibyniaeth olygyddol i S4C ac fe fyddwch chi wedi clywed geiriau’r Prif Weinidog pan ddywedodd y byddwn ni’n cyflawni geiriad ac ysbryd ein haddewid,” meddai Alun Cairns yn ei ymateb.

Cafodd gweinidog Swyddfa Cymru ei herio gan yr AS Llafur Susan Elan Jones, fodd bynnag, a ddywedodd ei bod hi’n “warthus” nad oedd y Llywodraeth wedi newid ei phenderfyniad i dorri cyllideb y sianel Gymreig eto.

Fe wnaeth Alun Cairns daro nôl gan ddweud ei fod yntau’n credu ei bod hi’n “warthus” bod Llafur yn cwyno am benderfyniadau’r Ceidwadwyr yn San Steffan pan oedd eu “Prif Weinidog yn y Cynulliad yn ceisio amddiffyn … toriadau i gefnogi’r iaith Gymraeg o 5.5%”.