Leighton Andrews
Byddai cau rhagor o lysoedd yng Nghymru yn gadael “effaith andwyol” ar y system gyfiawnder, yn ôl Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews.

Mewn llythyr at y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fe fynegodd ei bryderon am gynlluniau arfaethedig Llywodraeth y DU i ddiwygio’r llysoedd barn, gan atodi manylion dadansoddiad a luniwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n nodi y byddai’n effeithio ar y “mynediad at gyfiawnder” gan ddweud y byddai mwy na 30,000 o gartrefi ychwanegol yng Nghymru yn gorfod teithio mwy na dwy awr, naill ffordd, i gyrraedd eu llys agosaf.

“Mae’r canfyddiadau’n dangos y byddai hyn yn cael yr effaith fwyaf niweidiol ar ardaloedd gwledig Cymru,” ychwanegodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.

‘Galw am gadarnhad’

Fe esboniodd Leighton Andrews y byddai cau’r llys yn Nolgellau yn golygu y byddai 72% o gartrefi yn gorfod teithio mwy na dwy awr gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, o’i gymharu â  38% ar hyn o bryd.

“Mae Llangefni yn ardal arall y byddai hyn yn cael effaith sylweddol arni, gan y byddai  48% o gartrefi yn wynebu amser teithio o fwy na dwy awr gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, o’i gymharu â dim un aelwyd ar hyn o bryd.”

“Mae ein dadansoddiad yn dangos bod yr effeithiau gryn dipyn yn waeth na’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ragfynegi yn eu papur ymgynghori.”

Am hynny, mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus yn galw am gadarnhad y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi sylw i’r materion sy’n codi yn nadansoddiad Llywodraeth Cymru cyn y bydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud i gau rhagor o adeiladau llys a thribiwnlys yng Nghymru.