Yn dilyn pryderon y gallai’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wynebu toriadau ariannol, mae’r corff wedi dweud ei fod yn ystyried gwneud arbedion ar draws ei holl weithgareddau.

Yn ôl datganiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fe wnaeth Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg y penderfyniad i dorri’n ôl ar ei wasanaethau ym mis Tachwedd ‘gan gydnabod y cyd-destun cyllidol presennol’.

Nid yw’r corff yn manylu ar y math o doriadau ond y byddai’n seiliedig ‘ar y fath o doriadau ac arbedion sy’n wynebu cyrff eraill sy’n derbyn arian cyhoeddus’.

Daw’r sylwadau yn dilyn dogfen a gyflwynwyd i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad ynglŷn â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru sy’n golygu y byddai’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Hefcw) yn wynebu toriad o 32%.

Mae arian y Coleg Cymraeg yn dod yn uniongyrchol gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch ac felly gallai toriadau sy’n dod i’r corff effeithio ar y Coleg yn ‘sylweddol’.

“Yr her fwyaf ar hyn o bryd yw cynnal yr hyn sydd wedi ei gyflawni yn ystod y pum mlynedd gyntaf (o sefydlu’r Coleg), ac adeiladu arno, ar adeg o bwysau sylweddol ar gyllid cyhoeddus,” meddai datganiad y Coleg Cymraeg.

Toriadau’n ‘peryglu’ gwaith y Coleg

Yn ôl y Coleg, mae cyhoeddi Adroddiad Interim yr Athro Ian Diamond ar addysg uwch yng Nghymru yn ddiweddar, yn ‘gyfle ardderchog i sefydlu trefniadau parhaol a chynaliadwy i gynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y prifysgolion.’

Er hyn, mae’r corff hefyd yn mynegi ei bryderon dros ‘benderfyniadau tymor byr’ cyllideb y Coleg yn 2016/17, a allai ‘danseilio’ ei waith a ‘pheryglu’r hyn sydd wedi’i gyflawni’.

Yn dilyn penderfyniad y Coleg Cymraeg i dorri’n ôl, dywedodd fod y gyllideb newydd sydd wedi’i phenderfynu gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn ‘galluogi (ei) weithgareddau i barhau’n hyfyw.’

Mae’r Coleg hefyd wedi bod yn cynnal trafodaethau â phrifysgolion am eu hymrwymiadau i ddarparu addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg  ar ôl i grantiau’r corff ddod i ben.

‘Mater i’r Cyngor Cyllido’

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael ei ariannu drwy’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac felly “mater i’r Cyngor Cyllido yw penderfynu sut i ddosbarthu’r arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.”

‘Sefyllfa cwbl hurt’

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan pryder ynglŷn â’r bygythiadau posib i gyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sgil cyllideb ddrafft  y Llywodraeth.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “Mae cyllideb ddrafft diweddaraf y Llywodraeth wedi dangos yn glir y diffyg parch a sylw a roddir i’r Gymraeg. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cynrychioli bygythiad arall: y tro hwn yn erbyn corff sydd wedi gwneud cymaint i ddatblygu a hyrwyddo addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ar draws ystod eang o bynciau.

“Cawn yma sefyllfa cwbl hurt lle mae darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei fygwth, tra bo’r Llywodraeth yn berffaith hapus i barhau i wario ar gefnogi myfyrwyr Cymru i astudio yn Lloegr.

“Edrychwn ymlaen at drafod hyn ymhellach gyda’r Llywodraeth a’r Corff ariannu Addysg Uwch.”