Ceffyl 11 oed o Iwerddon sydd wedi ennill ‘Grand National Cymru’ ar gwrs rasio Cas-gwent heddiw.

J E Moore oedd y joci ar gefn Mountainous, wrth iddo groesi’r llinell derfyn bron i dri hyd ceffyl ar y blaen i farch arall o’r Ynys Werdd (Firebird Flyer) ac 11 hyd ceffyl ar y blaen o’r trydydd, Shotgun Paddy (ie, o Iwerddon).

Roedd y ras i fod i gael ei chynnal ar Ragfyr 27 y llynedd, ond fe gafodd ei gohirio bryd hynny oherwydd fod y cwrs yn wlyb yn dilyn cyfnod o law trwm a thywydd garw.

Mae Mountainous yn cael ei hyfforddi yn stablau Kerry Lee.