Marvin James (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod corff dyn a fu ar goll, wedi’i dynnu o’r mor yn Southerndown, Pen-y-bont ar Ogwr.
Doedd neb wedi gweld Marvin James ers Rhagfyr 30, ac fe ddaethpwyd o hyd i’w fan Ford Transit wedi’i difrodi ar y creigiau yn Aberogwr yr wythnos hon.
Mae’r heddlu’n apelio ar i dystion, a allai fod wedi gweld y cerbyd yn cyrraedd y man hwnnw, i gysylltu ar y rhif, 101.