Mae’r Aelod Seneddol Guto Bebb wedi mynnu bod angen atebion gan y Trysorlys a’r FCA (Financial Conduct Authority) ynglŷn â ‘thwyll’ welodd buddsoddwyr yn colli £130m.

Yn ôl yr AS Ceidwadol dros Aberconwy roedd miloedd o bobl oedd wedi rhoi arian i mewn i gynllun buddsoddi Connaught Income Funds wedi colli’r cyfan oherwydd twyll.

Ond nawr mae’n cyhuddo’r FCA o lusgo’u traed ynglŷn ag ymchwilio i’r mater, gan olygu bod dim byd wedi cael ei wneud hyd yn hyn i ddigolledu’r buddsoddwyr.

Ychwanegodd Guto Bebb bod y cynllun buddsoddi wedi targedu pensiynwyr a chynilion mawr mewn cyfrifon banc oedd yn ennill dim llog, a bod “sawl un yng Nghymru” yn debygol o fod wedi cael eu heffeithio.

‘Cynllun twyll Ponzi’

Mae Guto Bebb yn gadeirydd ar grŵp o Aelodau Seneddol trawsbleidiol sydd wedi bod yn ceisio herio’r FCA am atebion ers dros flwyddyn a hanner, ac fe fydd y mater yn cael ei godi mewn trafodaeth yn San Steffan ddydd Mawrth.

Ac yn ôl yr AS, mae’r ffaith bod twyll wedi parhau hyd yn oed ar ôl i’r FCA gael gwybod am bryderon yn codi cwestiynau pellach am eu rôl nhw.

“Beth sy’n arbennig o ddiddorol ydi bod £70m [o’r £130m gafodd ei golli] wedi cael ei fuddsoddi ar ôl i gyn-swyddog cyllid Connacht fynd at yr FCA efo dogfen yn dangos bod y cwmni yn ddim mwy na Ponzi scheme,” meddai Guto Bebb wrth Golwg360.

“Roedd y ddogfen yn dangos yn glir bod y cyfrifon yn ffals. Mae Capita wedi golchi dwylo o’r mater gan eu bod nhw’n gwybod bod y cyfrifon yn fflas, mae ‘na ddwyn penodol o’r gronfa, a wnaeth yr FCA ddim dweud dim byd – mi gymrodd hi flwyddyn iddyn nhw roi ar eu safle we nad oedd y Connaught Income Funds mor ddiogel â chyfrif banc.

“Babi George Osborne ydi’r FCA, ond mae’r FCA yn methu llawn cymaint ag yr oedd yr FSA gynt.”

Trafodaeth seneddol

Mynnodd Guto Bebb nad oedd ganddo “lawer o amheuaeth” bod mai twyll oedd wedi achosi i’r buddsoddiadau gwerth £130m ddiflannu.

Roedd yr FCA wedi dechrau trafodaethau â gweinyddwyr Connacht a chwmnïau Capita a Blue Gate Capital, oedd yn gyn-gyfarwyddwyr ar y cynllun, cyn tynnu nôl a phenderfynu cynnal ymchwiliad eu hunain.

Ond gyda’r ymchwiliad hwnnw eto i weld golau dydd mae’r Aelod Seneddol yn mynnu mai digon yw digon.