Bydd 100 o weithwyr gofal yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin yn cael hyd at £2,500 ar ôl i gwmni wneud yn iawn am beidio â thalu’r isafswm cyflog i’w staff.

Mae MiHomecare wedi bod dan bwysau i sicrhau bod y cyflog maen nhw’n dalu i staff yn cydymffurfio â’r isafswm cyfreithiol gan ystyried yr amser mae’n cymryd i’r gweithwyr gofal deithio i gartrefi pobol.

Fel arfer, dydy cwmnïau gofal yn y cartref ddim yn talu i’w gweithwyr deithio rhwng cartrefi cleientiaid.

Ym mis Medi 2014, roedd adroddiad mewnol gan MiHomecare wedi canfod nad oedd cyflog eu staff yn cyd-fynd â rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Undeb yn croesawu

Dywedodd y cwmni ar y pryd ei bod am wneud yn iawn am hyn a chydymffurfio’n llawn â’r rheolau cenedlaethol, sy’n rhywbeth i’w groesawu, yn ôl undeb llafur Unsain.

“Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn,” meddai Trefnydd Unsain Cymru, Richie Lewis.

“Rydym yn falch o weld MiHomecare yn cywiro gwallau systemig ac yn gwerthfawrogi eu staff. Mae gweithwyr gofal yn y cartref yn gweithio oriau hir o dan amodau anodd ac maen nhw’n aml yn dioddef yn ariannol i ddarparu’r lefel o ofal mae cleientiaid ei angen.

“Dylai darparwyr gofal yn y cartref eraill yn y sector preifat gynnal adolygiad tebyg o’u prosesau i sicrhau bod eu staff yn cael eu talu yn unol â chyfraith Prydain.”

Angen cynnal safonau cyflogaeth

Mae Unsain bellach wedi datblygu Siarter Gofal Moesol ac am weld cynghorau ledled Cymru yn ei mabwysiadu er mwyn cynnal “safonau cyflogaeth teg” i’w staff gofal.