Gavin Williams (Llun y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Fe fydd Crwner yn penderfynu heddiw ar farwolaeth milwr o Gymru a fu farw wrth gael ei gosbi’n answyddogol gan y Fyddin.

Mae’r hyn a ddigwyddodd i’r Preifat Gavin Williams o Hengoed ger Caerffili wedi codi cwestiynau mawr am arfer swyddogion o “fwystfileiddio” milwyr sy’n camymddwyn.

Mae llys y crwner yn Salisbury wedi clywed sut y cafodd Gavin Williams ei gosbi’n llym gan dri o swyddogion ar ôl bod yn anufudd a sawl achos o gamymddwyn meddw.

Ac mae gwas sifil, Dawn Harrison, a welodd y cosbi yng ngwersyll Lucknow ger Tidworth yn Wiltshire wedi dweud na allai “gredu yr hyn yr oedd hi’n ei weld”.

Dieuog

Yn 2008, cafwyd tri swyddog yn ddieuog o ddynladdiad Gavin Williams, a oedd yn breifat gyda Chatrawd Frenhinol Cymru.

Roedden nhw wedi gorfodi’r milwr 22 oed i fartsio yn ôl ac ymlaen mewn gwres llethol er ei fod yn diodde’n gorfforol.

Yn ôl Dawn Harrison, roedd Gavin Williams i’w weld mewn cyflwr gwael ond roedd y swyddogion yn dweud wrtho gau ei geg pan oedd yn ceisio siarad.

Yn yr ysbyty, dangosodd profion fod ei gorff bron 5 gradd canradd yn uwch nag y dylai fod a bod olion o’r cyffur ecstasi yn ei waed.

Y cefndir

Roedd yr arfer o “fwystfileiddio” wedi ei wahardd yn 2005 ond, fe ddywedodd un o gyd-filwyr Gavin Williams, Gareth Davies, wrth y Crwner ei fod yn arfer cyffredin o hyd.

Mae achos Gavin Williams wedi codi cwestiynau eto am agweddau yn y fyddin, gan ddilyn yr ymgyrchu am gyfiawnder i’r Preifat Cheryl James o Langollen a fu farw ynghanol honiadau o fwlio.