Liz Saville Roberts
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi galw am drafodaeth bellach ar ddyfodol S4C a phleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar bolisi’r Llywodraeth i gwtogi cyllid y sianel.

Mae Liz Saville Roberts hefyd yn galw ar aelodau o bleidiau eraill i arwyddo cynnig bod Tŷ Cyffredin yn condemnio’r toriadau ac yn galw ar y Llywodraeth i gynnal adolygiad annibynnol ar ariannu’r sianel.

Bu trafodaeth ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin tan yr oriau mân fore dydd Mercher, lle wnaeth llawer o wleidyddion o bob plaid ddatgan eu cefnogaeth i S4C.

Ond yn ôl AS Dwyfor-Meirionnydd, doedd “ymateb hynod arwynebol y Llywodraeth” ddim yn ddigonol ac mae angen cyfle arall i drafod a chynnal pleidlais.

“Cydweithio trawsbleidiol”

“Yn ysbryd y cydweithrediad trawsbleidiol a welsom yn y ddadl fore Mercher, rwyf yn annog ASau o bob plaid i gefnogi ein galwad, fel y gallwn sicrhau ymdrech gydunol i barhau i bwysleisio pwysigrwydd S4C a’r angen am adolygiad annibynnol o rôl y sianel yn y dyfodol,” meddai Liz Saville Roberts.

Mae cyllideb S4C wedi cael ei dorri 35% ers 2010 ac yn Natganiad yr Hydref, cyhoeddodd George Osborne y bydd y rhan o gyllideb S4C sy’n dod o’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn gostwng 26%, o £6.7m i £5m erbyn 2019/20.

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Ed Vaizey, yn ystod y drafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin ei fod yn “cydymdeimlo â’r pwynt” o gael adolygiad annibynnol ynglŷn â S4C a darlledu drwy’r Gymraeg ac y byddai’r Llywodraeth yn ystyried hynny.