David Cameron
Mae Prif Weinidog y DU wedi datgan ei gefnogaeth i S4C, gan ddweud ei fod am “sicrhau ei bod yn parhau i fod yn sianel gref iawn.”

Fe wnaeth David Cameron ei sylwadau’r prynhawn ‘ma yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog wrth ymateb i gwestiwn Simon Hart, AS Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro.

Gofynnodd yr Aelod Seneddol i’r Prif Weinidog “atgyfnerthu ei gefnogaeth” i’r sianel ac “ymrwymiad” y Ceidwadwyr i “ddiogelu ei chyllid.”

Wrth ymateb, dywedodd David Cameron: “Rwy’n hapus iawn i wneud hynny. Mae S4C yn rhan bwysig o’n strwythur ddarlledu, mae hi’n boblogaidd yng Nghymru ac rwyf eisiau sicrhau ein bod ni yn gwireddu geiriad ac ysbryd ein haddewid yn y maniffesto i sicrhau ei bod hi’n parhau’n sianel gref.”

Geiriau Cameron yn ‘galondid’

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, bod sylwadau’r Prif Weinidog heddiw yn “galondid” iddo.

“Gobeithiwn y bydd ei ymroddiad i wireddu geiriad ac ysbryd maniffesto ei blaid i amddiffyn ariannu S4C yn esgor ar drafodaeth ehangach a chyfleoedd iddo fynegi ei gefnogaeth ymhellach,” meddai.

Yn dilyn sylwadau David Cameron, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Llywodraeth i “ddadwneud y toriadau i gyllideb S4C”, os yw geiriau’r Prif Weinidog yn ddiffuant.

“Fel arall, geiriau gwag ydyn nhw,” meddai Jamie Bevan, cadeirydd y mudiad iaith.

“Mae’r Ceidwadwyr wedi torri addewid maniffesto ac wedi dweud celwyddau wrth bobl Cymru. Mae torri dros chwarter y grant yn gwbl annerbyniol ac yn gwbl groes i’w haddewid yn yr etholiad.”

Ystyried adolygiad annibynnol i S4C

Daw sylwadau David Cameron yn dilyn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ar ddyfodol S4C yn ystod oriau mân y bore ma, lle wnaeth nifer o ASau o Gymru alw am adolygiad annibynnol ynglŷn â’r ffordd mae S4C yn cael ei chyllido.

“Rydym yn cydymdeimlo â’r pwynt o gael adolygiad annibynnol ar S4C a darlledu drwy’r Gymraeg,” meddai Ed Vaizey, y Gweinidog dros Ddiwylliant yn ystod y drafodaeth.

“Mae hynny’n sicr yn rhywbeth y byddwn yn ystyried gyda difrifoldeb llwyr.”

Disgrifiodd y Gweinidog y drafodaeth fel “galwad i ddeffro” pawb sy’n poeni am S4C ac sydd eisiau diogelu ei dyfodol.