Caerdydd
Mae un o gynghorwyr Caerdydd wedi croesawu penderfyniad cynllunwyr i gymeradwyo cynllun i godi mwy na 30,000 o dai newydd yn y brifddinas.

Yn ôl Ramesh Patel, sydd â chyfrifoldeb dros Gynllunio a Chynaliadwyedd, mae “dirfawr angen” cynllun o’r fath ar Gaerdydd.

Mae disgwyl i benderfyniad y cyngor i gymeradwyo’r Cynllun Datblygu Lleol arwain at godi mwy na 30,000 o dai newydd yn ystod y degawd nesaf.

Cafodd y penderfyniad ei seilio ar ddamcaniaeth fod poblogaeth Caerdydd yn debygol o gynyddu o 25% erbyn 2036.

Dydy’r manylion llawn ddim yn debygol o gael eu cyhoeddi tan yr wythnos nesaf, ond mae disgwyl i’r Cyngor llawn eu cymeradwyo yn eu cyfanrwydd.

Fe allai’r cynllun olygu codi 41,400 o dai newydd rhwng 2006 a 2016, a’u hanner ar safleoedd brown neu mewn ardaloedd diwydiannol.

Mae 12,200 o dai eisoes wedi’u codi, ac mae disgwyl i 18,000 gael eu codi yn y dyfodol yn ardaloedd gogledd orllewin Caerdydd, i’r gogledd o gyffordd 33 yr M4, gogledd ddwyrain Caerdydd a dwyrain Pontprennau.

‘Cyfnod cyffrous’ 

Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Ramesh Patel: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gaerdydd. Rydyn ni’n un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.

“Bydd y Cynllun Datblygu Lleol (LDP) yn sicrhau bod gan yr Awdurdod y grym i reoli datblygiad graddol o dai a chymunedau newydd ar draws y ddinas.

“Bydd yn ein galluogi ni i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd. Cartrefi cynaliadwy, sy’n addas i deuluoedd ac i’n poblogaeth sy’n tyfu.

“Fe fu dirfawr angen y cynllun hwn ar Gaerdydd ers peth amser. Cafodd y cynllun diwethaf ei gymeradwyo 19 o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi golygu bod tir annigonol ar gael i ddiwallu’r angen brys am gartrefi.”

Ychwanegodd y byddai cynlluniau trafnidiaeth, ysgolion, cyfleusterau iechyd a chymunedol yn cael eu haddasu yn ôl yr angen.

Bydd Cabinet y Cyngor yn trafod y cynlluniau ar Ionawr 21, tra bydd y Cyngor llawn yn ei ystyried a’i gymeradwyo’n derfynol ar Ionawr 28.