Mae’r cwmni gwerthu llyfrau, Waterstones, wedi dewis llyfr Cymraeg am gariad fel Llyfr y Mis ar gyfer mis Ionawr eleni.

Dyma’r eildro i gwmni Waterstones ddewis llyfr am gariad yn y Gymraeg ar gyfer y teitl hwn, gyda’r gyfrol Cariad pur gan Wasg y Bwthyn, yn cael ei ddewis fel Llyfr y Mis cyntaf Cymraeg y llynedd.

Cyfrol gan yr un wasg sydd wedi’i ddewis ar gyfer mis Ionawr eleni hefyd, sef Fy Nghariad Cyntaf, sy’n cynnwys ysgrifau am gariad gan ddeuddeg o awduron Cymru.

“Mae’n ddathliad dwbl,” esboniodd Marred Glynn Jones, Golygydd Creadigol Gwasg y Bwthyn, gan esbonio fod Fy Nghariad Cyntaf wedi’i ddewis gan y Cyngor Llyfrau hefyd fel Llyfr y Mis, mis Ionawr.

“Mae’n gyfrol arbennig o addas ar gyfer mis Ionawr, gan mai Ionawr 25 yw Dydd Santes Dwynwen, nawddsant cariad y Cymry,” ychwanegodd.

‘Hyrwyddo llyfrau Cymraeg’

Fe wnaeth llefarydd ar ran Waterstones groesawu’r cyhoeddiad gan ddweud, “mae’n bleser mawr gennym i barhau i gefnogi a hyrwyddo llyfrau Cymraeg.”

Fe fydd Fy Nghariad Cyntaf yn cael ei arddangos a’i werthu yn wyth o siopau’r cwmni yng Nghymru.

“Rydym yn falch o gael cyhoeddi unwaith eto bod Waterstones wedi penderfynu dechrau eu hymgyrch yn y flwyddyn newydd gyda llyfr Cymraeg,” meddai Helena O’Sullivan, Pennaeth Marchnata Cyngor Llyfrau Cymru.

“Mae’r teitl yn rhoi rhagflas o’i gynnwys, ac mae’n amserol iawn gyda Dydd Santes Dwynwen a Dydd Sant Ffolant ar y gorwel.”

Yn cyfrannu at y gyfrol mae Manon Steffan Ros, Lyn Ebenezer, Sonia Edwards, Ifana Savill, Eleri Llewelyn Morris, Bethan Gwanas, Tony Bianchi, Lleucu Fflur Jones, Ioan Kidd, Hywel Gwynfryn, Gaynor Davies ac Eryl Crump.
Fy Nghariad Cyntaf, Gwasg y Bwthyn, £7.95