Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod dau ddyn arall wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r tân a ddigwyddodd mewn ysgol gynradd yng Nghwmbrân ddydd Calan.

Fe ddechreuodd y tân yn Ysgol Coed Efa, Cwmbrân yn ystod oriau mân Ionawr 1.

Mae’r Heddlu wedi cadarnhau fod dau ddyn arall, un 18 oed ac un 21 oed, o ardal Cwmbrân wedi eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol.

Maen nhw bellach wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth wrth aros ymchwiliadau pellach.

Mae pedwar bachgen arall, tri yn 14 oed ac un 15 oed, eisoes wedi’u harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol ac wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tan Chwefror 29 a Mawrth 1.

Parhau ynghau

Mae mwy na 500 o blant yn mynychu Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân, gan gynnwys 200 yn mynychu’r adran feithrin.

Fe fydd yr ysgol yn parhau ynghau tan yr wythnos nesaf, ac mae swyddogion yn ofni y gallai gymryd hyd at ddwy flynedd i adfer adeilad yr adran feithrin yn llawn.

Mae apêl i godi arian ar-lein wedi derbyn gwerth mwy na £3,000 o gyfraniadau yn barod. Mae neges ar y dudalen GoFundMe yn nodi, “rydym yn codi arian i sicrhau fod y plant yn cael yr addysg maen nhw ei angen ac yn ei haeddu, ac i roi hwb i ysbryd y gymuned unwaith eto.”