Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Gaerfyrddin fore Sadwrn.

Bu farw dyn ar ffordd B4302 rhwng Talyllychau a Chrugybar yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng 1.30 a 4.45 y bore.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth roi gwybod i’r heddlu ar 101.