Jim Williams (Llun: Team Harlequin)
Mae dyn ifanc o Bowys wedi achosi tipyn o ysgytwad ym mhencampwriaeth ddartiau’r byd yn y Lakeside, trwy guro un o enwau mawr y gamp.

Jim Williams o Lanandras gafodd y gorau ar Tony O’Shea yn rownd gynta’r bencampwriaeth  yn Frimley Green, Surrey, heddiw, gan ennill y gem dair set i ddim.

Dyma ail dro’r chwaraewr 31 oed yn cystadlu yn y Lakeside. Fe ddaeth i amlygrwydd gynta’ ar y syrcit trwy wneud ei farc ym Mhencampwriaeth Meistri’r Byd Winmau yn Hull yn 2012.

Fe gerddodd i’r llwyfan yn y Lakeside i gyfeiliant ‘No One Knows’ gan Queens of the Stone Age… ond mae llawer iawn mwy yn gwybod amdano nawr. Mae’n aros i gael clywed pwy y bydd yn ei wynebu yn yr ail rownd.