Mae’r gost o groesi Pont Hafren 10c yn drutach ers hanner nos. 

O heddiw ymlaen, fe fydd car yn gorfod talu £6.60 i groesi’r pontydd, tra bod faniau a bysiau bychain yn talu £13.20, a lorïai a bysiau trwm yn gweld codiad o 30c i £19.80.

Yn ôl y cwmni SRC (Severn River Crossing ccc) mae pob cynnydd wedi’i nodi eisoes yn Neddf Pontydd Hafren 1992, ac yn cael eu rheoli gan yr indecs prisiau, RPI.