Carwyn Jones
Cyflwyno system newydd ar gyfer rhoi organau oedd un o lwyddiannau mwyaf Cymru yn 2015, meddai Carwyn Jones.

Yn ei neges ar gyfer y flwyddyn newydd dywedodd y Prif Weinidog bod 2015 “wedi bod yn flwyddyn arbennig arall i Gymru.”

“Fel cenedl o ddim ond ychydig mwy na thair miliwn o bobl, rydyn ni’n parhau, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i wneud pethau rhagorol sy’n denu sylw ar draws y byd.

“Yn bersonol, dw i’n meddwl mai un o’n llwyddiannau mwyaf ni yn ystod y flwyddyn oedd gweld Cymru yn dod yn un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i gyflwyno system newydd ar gyfer rhoi organau.

“Bydd ein system feddal o optio allan, sy’n chwyldroadol, yn achub bywydau; mae mor syml â hynny. Dw i’n falch, ar ôl yr holl waith caled a’r ymdrech, ein bod ni wedi llwyddo i wireddu hyn yn 2015.”

Buddsoddi yn y GIG ac addysg

Aeth ymlaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn dal i fuddsoddi “mwy nag erioed o’r blaen” yn y GIG oherwydd ei bod “mor werthfawr.”

Mae bron £300 miliwn wedi’i gyhoeddi yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn 2016-17, meddai.

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni “gwelliannau i ddisgyblion, staff addysgu a’r seilwaith addysg” yn ystod y flwyddyn.

“Mae Cymru ar gerdded. Rydyn ni wedi cyflawni: gwell ysgolion; gwell cyllid; gwell canlyniadau; gwell cymwysterau; athrawon â gwell cymwysterau a gwell ffordd o wneud pethau.”

 Economi

Parhau  i ragori ar berfformiad y DU gyfan mae’r twf yn yr economi hefyd, meddai Carwyn Jones.

“Yn ogystal â hynny, mae lefelau cyflogaeth wedi cynyddu a chyfraddau diweithdra wedi syrthio ar raddfa gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw fan arall yn y DU.”

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru yn “gweithio’n ddiflino i gefnogi’r diwydiant dur” yng Nghymru, gan barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r broblem o brisiau ynni uchel.

Chwaraeon

Dywedodd Carwyn Jones: “Wrth gwrs, allwch chi ddim edrych nôl ar 2015 heb sôn hefyd am lwyddiannau Cymru mewn chwaraeon. Rydyn ni wedi cynnal Cyfres y Lludw unwaith yn rhagor, heb sôn am Gwpan Rygbi’r Byd. A pheidiwch ag anghofio chwaith bod ein stadiwm genedlaethol ni wedi’i henwi yn lleoliad ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn 2017.

“Er eu bod nhw wedi dioddef anafiadau di-rif, perfformiodd ein tîm rygbi cenedlaethol yn dda yng Nghwpan y Byd. Ond, perfformiad tîm pêl-droed Cymru oedd y llwyddiant mwyaf ym myd y campau eleni, heb os. Fe gyrhaeddodd y tîm ffeinal cystadleuaeth fawr am y tro cyntaf ers 1958.

“Dw i’n dymuno’n dda iddyn nhw yng nghystadleuaeth Cwpan Ewrop yn 2016.

“Felly, gadewch inni edrych ymlaen at 2016, pan fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n ddiflino ar ran Cymru.

“Fyddwn ni byth yn llaesu dwylo. Byddwn ni bob amser yn gwneud ein gorau glas dros Gymru. Dyw pobl Cymru yn haeddu dim llai na hynny.”