Fe fydd penderfyniad Llywodraeth San Steffan i wrthod dau gais gynllunio i godi ffermydd gwynt ym Mhowys yn cael ei ailystyried ar ôl i’r Uchel Lys wyrdroi’r dyfarniadau.

Cafodd pedwar cais ar gyfer ffermydd gwynt eu gwrthod gan Lywodraeth y DU ym mis Medi yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus a phrotestiadau gan ymgyrchwyr.

Ond cafodd dau benderfyniad a wnaed gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) eu diddymu gan yr Uchel Lys cyn y Nadolig yn dilyn adolygiad barnwrol, gan olygu y bydd y broses yn dechrau eto.

Fe fydd ymgyrchwyr nawr yn aros i weld a fydd ffermydd gwynt yng Ngarnedd Wen a Llanbrynmair yn mynd o dan y chwyddwydr unwaith eto.

Ond dywedodd AS Sir Drefaldwyn Glyn Davies ei fod yn hyderus y byddai’r canlyniad yn aros yr un peth.

“Yn amlwg mae’r Uchel Lys wedi edrych ar y broses eto ac wedi penderfynu nad oedd yn ddigon cadarn,” meddai Glyn Davies.

“Mae’n rhwystredig y bydd y mater dadleuol yma yn parhau am rai wythnosau eto.”

Mae RWE Innogy a RES yn dweud bod dyfarniad yr Uchel Lys wedi rhoi gobaith newydd y bydd eu ceisiadau yn cael eu gwireddu.

Fe fydd y cais bellach yn dychwelyd i DECC i gael ei ail-ystyried.

Nid yw’r dyfarniad yn effeithio penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i wrthod cais ynglŷn â chyswllt trydan uwchben y ddaear rhwng Llandinam i is-orsaf drydan Y Trallwng, ynghyd a ffermydd gwynt yn  Llanbadarn Fynydd a  Llaithddu.