Safle atomfa Wylfa Newydd, Ynys Mon
Mae hi’n ddiwedd cyfnod heddiw wrth i’r cynhyrchu trydan yng ngorsaf bŵer Wylfa, Ynys Môn ddod i ben am y tro olaf.

Er bod yna bryderon y gallai traean o’r gweithlu presennol o 500 golli eu gwaith erbyn canol 2016, mae Gweinidog yr Economi Edwina Hart wedi bod yn pwysleisio’r cyfleoedd i ogledd Cymru.

Mae disgwyl i’r gwaith o ddatgomisiynu gorsaf bŵer bresennol Wylfa ac adeiladu Wylfa Newydd greu swyddi i ryw 8,500 o bobl  ar y safle pan fydd y gwaith adeiladu ar ei brysuraf a bydd angen tua 1,000 o weithwyr i redeg yr atomfa am ei hoes o dros 60 o flynyddoedd, meddai.

Disgwylir i Wylfa Newydd, gychwyn cynhyrchu trydan erbyn canol y 2020au.

‘Rhan allweddol’

Dywedodd Edwina Hart bod Wylfa wedi chwarae “rhan allweddol” yn economi Ynys Môn ers mwy na 40 mlynedd ac wedi cyfrannu at economi carbon isel Cymru.

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Magnox, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a’r awdurdod lleol i baratoi ar gyfer y gostyngiad yn nifer y staff yn Wylfa.

“Rwyf wedi sefydlu Tasglu Magnox er mwyn sicrhau ein bod ni’n cadw’r gweithlu profiadol yng ngogledd Cymru ar gyfer y cyfleoedd sydd o’n blaenau.

“Tra bod heddiw’n nodi diwedd un cyfnod mae hefyd yn ddechrau ar gyfnod newydd i’r ynys a’r economi ehangach yng ngogledd Cymru.”

‘Moment hanesyddol’

Dywedodd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn: “Mae hon yn foment hanesyddol i Ynys Môn ac mae’n nodi diwedd cyfnod llwyddiannus o gynhyrchu ynni carbon isel. Ers ei gomisiynu yn Ionawr 1971, mae Wylfa wedi cynhyrchu ymhell dros 232 TWh o drydan ac wedi cyflogi cenedlaethau o bobl leol sydd wedi ennill sgiliau proffesiynol amrywiol a defnyddiol o ganlyniad.

“Mae Wylfa wedi gweithio’n agos gyda chwmnïau lleol ac wedi cefnogi’r gymuned ehangach yn Ynys Môn yn ystod ei oes ac wedi rhoddi i nifer o’n pobl ifanc y cyfle i aros a gweithio yn eu hardal leol. Mae wedi buddsoddi yn eu sgiliau a’u datblygu mewn nifer o ffyrdd – gan gymryd cenedlaethau o brentisiaid a’u hyfforddi gyda hynny’n cyfrannu at y diwylliant a’n cymunedau Cymreig.

“Wrth i un cyfnod ddod i ben, mae un arall yn cychwyn. Gan edrych ymlaen ar drothwy’r Flwyddyn Newydd, rydym yn llawn cyffro am y newidiadau cadarnhaol a ddaw i Ynys Môn fel rhan o’r Rhaglen Ynys Ynni gan gynnwys prosiect sylweddol Wylfa Newydd.”

‘Peryglon’

Ond mae ’na wrthwynebiad i Wylfa Newydd yn Ynys Môn.  Dywedodd Robert Idris o fudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B) ar y Post Cyntaf bore ma eu bod yn croesawu datblygiadau cynaliadwy sy’n creu swyddi ond nad ydyn nhw’n credu bod Wylfa Newydd yn gynaliadwy.

“Mae symud y tanwydd yn beryglus ynddo’i hun ac mae’n mynd i amharu ymhellach ar y tirlun hyfryd sydd gennym ni yma,” meddai.

Ond wfftio’r peryglon wnaeth John Idris Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni Môn,  ar y Post Cyntaf gan ddweud mai pobl brofiadol a phroffesiynol fyddai’n gwneud y gwaith.