Lemmy
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i brif leisydd y grŵp Motorhead, Lemmy, sydd wedi marw yn 70 oed.

Bu farw’r canwr roc ddyddiau’n unig ar ôl iddo gael diagnosis o ganser ar Ŵyl San Steffan, meddai’r band.

Daw ei farwolaeth ychydig dros fis ers marwolaeth drymiwr y grŵp Phil ‘Philthy Animal’ Taylor fu farw yn 61 oed ar 11 Tachwedd.

Cafodd Lemmy – ei enw iawn oedd Ian Kilmister – ei eni yn Stoke-on-Trent ar Noswyl Nadolig yn 1945.

Yn ystod ei arddegau, bu’n byw gyda’i deulu yn Ynys Môn gan fynychu Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch.

Fe sefydlodd  Motorhead yn 1975 ar ôl gadael y grŵp Hawkwind.

Mae’r grŵp yn fwyaf adnabyddus am y sengl Ace Of Spades.

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Lemmy gan gyn-gitarydd Motorhead Eddie Clarke, a ddywedodd ei fod “fel brawd i mi… mae’r byd yn ymddangos yn lle gwag iawn ar hyn o bryd.”

Dywedodd Ozzy Osbourne, o Black Sabbath ei fod wedi colli un o’i “ffrindiau gorau. Bydd colled fawr ar ei ôl.”

Mae Gene Simmons o Kiss, gitarydd Queen Brian May, a Duff McKagan o Guns N’ Roses hefyd wedi rhoi teyrngedau iddo.