April McMahon
Mae Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Brifysgol Aberystwyth i ofyn am sicrwydd y bydd is-ganghellor nesaf y brifysgol yn medru’r Gymraeg.

Dair wythnos yn ôl, cyhoeddodd yr is-ganghellor presennol, yr Athro April McMahon, y bydd hi’n gadael ei swydd fis Gorffennaf.

Yn y llythyr diweddara’ hwn at awdurdodau’r Coleg Ger y Lli, dywedodd Elfed Wyn Jones, cadeirydd y Gell:

“Wrth i chi fynd ati i benodi is-ganghellor newydd, dros dro tan fis Gorffennaf, ac yn barhaol wedi hynny, gofynnwn i chi sicrhau fod y person a gaiff ei benodi yn rhugl yn y Gymraeg fel y gall ddefnyddio’r Gymraeg wrth weithio bob dydd, ac yn deall anghenion y gymuned Gymraeg sydd yn y brifysgol.

“Does dim amheuaeth am yr hyn mae myfyrwyr ei eisiau ar gyfer neuadd Gymraeg: coridorau agored, digon o ystafelloedd i gymdeithasu a chynnal digwyddiadau ac ymarferion, a ffreutur. Mae myfyrwyr wedi bod yn gwbl glir am hyn o’r dechrau.”

Er i’r is-ganghellor presennol addo dysgu’r Gymraeg cyn cael ei phenodi, nid ydi April McMahon wedi cyflawni’r addewid hwnnw.

“Dengys hyn mai’r unig ffordd i sicrhau fod yr is-ganghellor nesaf yn medru’r Gymraeg ydy mynnu fod y Gymraeg yn sgil hanfodol wrth hysbysebu’r swydd,” meddai Elfed Wyn Jones eto. “Nid oes rheswm pam na ddylai’r Gymraeg fod yn sgil hanfodol i’r swydd hon, ac i bob swydd yr hysbysebwch yn y dyfodol.”