Mae’r cyhoedd yn cael eu rhybuddio i gadw draw o garcas morfil marw a gafodd ei olchi ar draeth yn y Canolbarth ddydd Nadolig.

Fe ddaeth y carcas 8.2m i’r lan yng nghanolfan gadwraeth Dyfi Ynyslas, Ceredigion, ddydd Gwener – ond oherwydd fod y corff wedi dechrau dadelfennu, dyw arbenigwyr ddim hyd yn oed wedi gallu adnabod pa fath o greadur ydi o’n union.

Mewn datganiad, meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau:

“Mae corff y morfil wedi dadelfennu, ac fe allai fod yn berygl i iechyd unrhyw un sy’n ei gyffwrdd. Dyna pam rydyn  ni wedi gosod rhybudd ar y traeth yn cynghori pobol i beidio mynd yn rhy agos ato.

“Mae’r tywydd garw wedi gwneud y gwaith o symud y carcas yn amhosib yn amhosib, ond mae trafodaethau’n parhau rhwng Gwylwyr y Glannau a Chyfoeth Naturiol Cymru ynglyn a sut i’w symud yn ddiogel ac mor sydyn a phosib.”