Eluned Parrott, AC Canol De Cymru
Mae un o Aelodau Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am “wastraffu” £52,000 ar ymgyrch hysbysebu oedd i fod i hyrwyddo Metro De Cymru.

Dros y misoedd diwetha’, mae ambell slogan a baneri wedi bod yn ymddangos yma ac acw mewn gorsafoedd trenau yn ne Cymru yn dweud “Mae ar ei ffordd / It’s approaching”, ond mae Eluned Parrott yn dadlau nad yw’r sloganau’n cynnwys “dim gwybodaeth ddefnyddiol i’r cyhoedd”.

Tra bod plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn gefnogol iawn i’r system Metro De Cymru, maen nhw, yn yr achos hwn, yn credu y gellid fod wedi defnyddio’r arian yn well trwy wario ar ymgyrch oedd yn rhannu gwybodaeth ac yn ymgynghori efo’r cyhoedd.

Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Eluned Parrott AC, mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi cadarnhau mai “cyfanswm y gwariant mewn perthynas â marchnata Metro De Cymru, ar Dachwedd 30, oedd £52,782+TAW”. 

Does dim disgwyl i’r gwaith ddechrau ar y system Metro tan y flwyddyn 2017, a fydd y prosiect ddim yn cael ei gwblhau tan beth bynnag 2020.

“Mae hon yn ffordd sinigaidd iawn o wario arian cyhoeddus,” meddai Eluned Parrott.

“Gadewch i ni fod yn glir: nid arian yw hwn sydd wedi’i ddefnyddio ar ymgynghori gyda’r cyhorff. Arian yw hwn sydd wedi’i ddefnyddio i farchnata’r ffaith y bydd yna, flynyddoed o nawr, system Metro De Cymru.

“Dyma enghraifft arall, eto fyth, o Weinidogion Llafur yn gwario arian cyhoeddus fel tae e’n tyfu ar goed,” meddai Eluned Parrott wedyn. “Does dim modd cyfiawnhau’r gwariant hwn. Mae’n wastraff arian.”