Angela Harrop (Llun: Heddlu Dyfed Powys)
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn am help y cyhoedd er mwyn ceisio dod o hyd i wraig 54 oed sydd wedi bod ar goll dros y Nadolig.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n “pryderu am ddiogelwch” Angela Harrop o Login ger Hendygwyn ar Daf.

Y tro diwetha’ iddi gael ei gweld, roedd Angela Harrop yn gyrru cerbyd Mitsubushi L200.

Dylai unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am ei mynd a dod, gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar y rhif 101.