Tai yn Llundain - agos at y miliwn ymhen deng mlynedd (llun parth cyhoeddus)
Mae arbenigwyr yn darogan y gallai prisiau tai godi o gymaint â 6% ar draws gwledydd Prydain y flwyddyn nesa’.

Ond, hyd yma, mae Cymru yn un o’r ardaloedd lle mae prisiau wedi bod yn yr unfan, yn enwedig y tu allan i’r De-ddwyrain.

Er hynny, meddai sylwebwyr, mae yna resymau pam y gallai prisiau godi’n gyffredinol yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Un yw prinder tai, y llall yw pobol yn rasio i osgoi cynnydd yn y dreth stamp.

Prinder tai newydd

Mae Sefydliad Brenhinol y Tirfesurwyr Siartredig yn dweud bod nifer y tai newydd sydd ar gael bellach yn ôl tua’r lefel isa’ ers dechrau cadw cofnodion.

Ac mae arolwg a wnaed ar gyfer cymdeithasau gwerthwyr tai yn awgrymu y bydd prisiau tai wedi codi 50% yn uwch o fewn deng mlynedd.

Yn Llundain, fe fyddai hynny’n golygu bod prisiau ar gyfartaledd yn agos at y miliwn.

Y darogan ar gyfer rhenti yn y flwyddyn nesa’ yw cynnydd o 3%.