R Alun Evans (g360)
Mae dau o arweinwyr crefyddol Cymru wedi galw am fwy o drugaredd at ffoaduriaid.

Yn ei neges Nadolig, fe ddywedodd Llywydd yr Annibynwyr Cymraeg, R. Alun Evans, y dylai Cristnogion groesawu ffoaduriaid “gyda breichiau agored”.

Ac yn ei bregeth Nadolig, fe fydd Archesgob Cymru, Barry Morgan, yn beirniadu Llywodraeth Prydain am fethu – neu wrthod – gwneud digon i helpu.

Neges R. Alun Evans

“Fel Cristnogion, dylem groesawu ffoaduriaid digartref gyda breichiau agored,” meddai R. Alun Evans. “Byddai eu troi hwy i ffwrdd yn groes i ddysgeidiaeth Iesu, sy’n ein hannog ni i roi cartref i’r dieithryn…

“Cafodd sefyllfa’r ffoaduriaid o Syria a gwledydd eraill, a ddaeth i’r amlwg yn y llun trasig o’r bachgen bach Aylan Kurdi wedi’i foddi ar draeth yng Ngwlad Groeg, ei wthio’n ôl i’r cysgodion gan y lladdfa erchyll ym Mharis.

“Ond rhaid i ni beidio â gadael i weithredoedd yr ychydig milain beri i ni galedu ein calonnau tuag at gyflwr enbydus y ffoaduriaid.