Mae dau berson wedi cael  anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad y bore ‘ma ar yr A477 rhwng San Clêr a Llanteg, Sir Benfro.

Digwyddodd y gwrthdrawiad  tua 8 o’r gloch fore Mercher rhwng dau gerbyd – Mitsubishi Colt, lliw arian a fan Vauxhall Vivero wen.

Cafodd y ddau berson a oedd yn teithio yn y car Mitsubishi eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

Mae dau berson arall oedd yn y fan Vauxhall wedi’u cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans cyffredin.

Mae’r ffordd yn dal i fod ynghau i’r ddau gyfeiriad ac mae dargyfeiriadau yn eu lle.

Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â’r Heddlu ar 101.