Mae dyn wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon y bore yma wedi’i gyhuddo o ymosod ar heddwas a oedd wedi torri ei goes.

Cafodd Jordan Victor Moran, 26 oed, gynt o bentref Fairbourne, Gwynedd ond sydd heb gyfeiriad penodol erbyn hyn, ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i’r heddwas Daniel Owen.

Roedd Jordan Moran yn ceisio gwrthsefyll cael ei arestio mewn digwyddiad yn  fflatiau’r Eifl ym Mhwllheli brynhawn ddydd Sadwrn.

Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o achosi difrod troseddol i gar yr heddlu.

Bydd Jordan Moran nawr yn cael ei gadw yn y ddalfa  a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron, Caernarfon ar  Ionawr 4.