Yn ôl y Cynghrair Cefn Gwlad mae’r gwaharddiad yn erbyn hela llwynogod “yn deilchion”, gyda phobl yn parhau i gefnogi’r weithred dros ddeng mlynedd ers cyflwyno cyfraith i atal y lladd yn 2004.

Gyda thymor yr helfeydd yn prysuro, mae disgwyl i tua 250,000 o bobl Gwledydd Prydain fynychu helfeydd ar Ddydd San Steffan.

Oherwydd hynny, mae’r ddeddf “yn deilchion” yn ôl y Cynghrair Cefn Gwlad, gydag ymchwil yn dangos fod pedwar o bob pump helfa un ai wedi cadw cefnogwyr, neu wedi ennill rhai newydd ers i’r ddeddf gael ei chyflwyno 11 mlynedd yn ôl.

“Mae’r gefnogaeth i’r helfeydd mor gryf ag erioed, ac mae’r Ddeddf Hela yn cael ei defnyddio’n bennaf i erlyn troseddau potsio,” yn ôl Tim Bonner, Prif Weithredwr y Cynghrair Cefn Gwlad (Countryside Alliance).

Gohirio pleidlais

Mae’r arolwg yn dangos fod mwy na 300 o helfeydd cofrestredig ym Mhrydain.

O’r rheiny, mae 91% yn parhau i hela gymaint ag o’r blaen, ac mae gan 85% yr un nifer, os nad mwy, o gŵn hela a fu ganddyn nhw adeg y gwaharddiad.

Daw canlyniadau’r arolwg wedi i Lywodraeth Prydain ohirio pleidlais i lacio’r ddeddf ar hela yng Nghymru a Lloegr ym mis Gorffennaf eleni.

Fe benderfynodd yr SNP y bydden nhw’n pleidleisio ac yn gwrthwynebu’r cynlluniau fyddai wedi dod â’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn unol â’r gyfraith yn yr Alban.

Yng Nghymru a Lloegr, dim ond dau gi sy’n gallu cael ei ddefnyddio i gael llwynogod allan o dwll, ond yn Yr Alban, gellir defnyddio faint bynnag o gŵn.

Mae’r arolwg hefyd yn amlygu mai 24 o aelodau o helfeydd cofrestredig, allan o gyfanswm o 378, a gyhuddwyd o droseddau dan y Ddeddf Hela, ac ni bu unrhyw erlyniadau cyhoeddus eleni.