Mae Heddluoedd ledled Cymru yn apelio ar bobl i gymryd gofal yn ystod yr hyn sy’n cael ei alw’n “Ddydd  Gwener Gwallgof” wrth i’r gwasanaeth brys wynebu un o nosweithiau prysuraf y flwyddyn.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi cynyddu presenoldeb ar y strydoedd yn barod at bartïon heno wrth i ganolfan dros dro  gael ei gosod yng nghanol Wrecsam i helpu pobl sydd angen cymorth, tra bod Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i bobl gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd yn ystod dydd Gwener Gwallgof.

‘Bod yn gyfrifol’

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn annog y rhai sy’n mynd allan i ddathlu i gadw’n ddiogel ac i yfed yn gyfrifol.

Derbyniodd y gwasanaethau ambiwlans 800 o alwadau ar y Dydd Gwener Gwallgof y llynedd o gymharu â 734 o alwadau ar yr un noson yn 2013 (gweler Nodiadau i Olygyddion).

Dywedodd Gordon Roberts ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae partïon a chwrdd â ffrindiau’n nodwedd amlwg o’r adeg hon o’r flwyddyn. Mae’r rhain yn eu tro’n rhoi pwysau ar griwiau ambiwlans a staff y Ganolfan Gyswllt Glinigol.”

Ychwanegodd: “Mae’n hawdd anghofio faint o alcohol rydych chi wedi’i yfed pan fyddwch chi’n mwynhau eich hun, ond wrth ein bod ni’n delio â digwyddiadau’n ymwneud ag alcohol, byddwn yn cael ein rhwystro rhag trin rhywun y mae ei sefyllfa’n fater o fywyd a marwolaeth go iawn.”

Mae Gordon Roberts yn apelio ar bobl i fod yn gyfrifol: “Rydym am i chi fwynhau eich hunain ond gofynnwn yn garedig i’r cyhoedd yfed yn gyfrifol a mwynhau eu hunain yn ddiogel.”

‘Mwy o bresenoldeb ar y strydoedd’

Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Armstrong ar ran Heddlu’r Gogledd: “Rydym eisiau i bobl ddod allan a mwynhau eu hunain, ond  gofynnwn i chwi gymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd.”

Fe ddywedodd y bydd heddlu ychwanegol ar batrôl o 3 y prynhawn ymlaen ac fe eglurodd: “Yn amlwg, fe fydd yna fwy o bresenoldeb ar y strydoedd nag arfer – tua 30-40% yn fwy nag ar nos Sadwrn arferol. Ond mae’n bwysig lleihau’r straen ar ein gwasanaethau brys.”

“Mae angen bod yn barod am hynny, tra bod y mwyafrif o bobl eisiau noson dda. Ond fe gewch un sydd eisiau achosi trafferth. Dyna pam ein bod angen paratoi am hynny.”

‘Cymryd cyfrifoldeb’

Dywedodd yr Arolygydd Chris Curtis, ar ran Heddlu Dyfed Powys: “Fe fydd yr Heddlu yn gweithio’n galed dros gyfnod y Nadolig i gadw’n strydoedd yn ddiogel. Serch hynny, dwi’n apelio ar bawb sy’n mynd allan i’w parti Nadolig i gymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd a pharatoi.  Fe all hynny wneud eich noson yn gofiadwy am y rhesymau anghywir.”

Ychwanegodd: “Cofiwch drefnu eich noson rhag blaen gan drefnu tacsi, sicrhau bod gan eich ffon ddigon o fatri, ac os nad oes gennych ddigon o arian i ddod adref, arhoswch gyda ffrind, peidiwch ag yfed gormod a pheidiwch â gadael eich diod heb i rywun gadw golwg arno.”