Mae dynes mewn cyflwr difrifol ag anafiadau sy’n bygwth ei bywyd ac mae bachgen hefyd wedi cael ei anafu yn dilyn gwrthdrawiad y bore ‘ma yn Neiniolen, ger Caernarfon.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd a ddigwyddodd am tua 8:30yb ddydd Iau ger garej Beran yn y pentref.

Yn ôl yr heddlu, roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys car Mazda lliw arian a char Kia du.

Cafodd y ddynes a’r bachgen eu cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Apelio am dystion

“Mae ymchwiliad llawn ar y gweill a hoffem glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac y gallai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu unrhyw beth yn arwain ato,” meddai’r Rhingyll, Tony Gatley o Uned Plismona’r Ffyrdd y Gogledd.

Gallwch gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 neu drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r rhif S192013.

Neu gallwch gysylltu â’r ystafell reoli’n uniongyrchol drwy’r sgwrs we fyw.

Oedi’n debygol

Mae swyddogion ar y safle ar hyn o bryd a bydd oedi yn debygol ar y ffordd, felly mae’r heddlu yn cynghori pobol i osgoi’r ardal lle bo’n bosib a chaniatáu rhagor o amser ar gyfer teithiau.