Cynlluniau ar gyfer y pentref newydd
Mae’r gwaith yn dechrau heddiw ar brosiect gwerth £100 miliwn i adeiladu pentref o 800 o dai yn agos at ganol dinas Caerdydd.

Bwriad y prosiect yw trawsnewid hen safle melin bapur 53 erw ger Pont Trelái rhwng Treganna a Threlái yng Ngorllewin Caerdydd a chreu ‘cymuned’ newydd.

Bydd tua 50% o’r tai, ar gael i’w gwerthu neu eu rhentu, am bris fforddiadwy a bydd y gweddill yn cael eu rhoi ar y farchnad agored.

Elusen tai Cartrefi Tirion sy’n gyfrifol am y prosiect ‘The Mill’, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu’r Principality.

Y contractwyr Alun Griffiths sy’n gyfrifol am y gwaith peirianneg sifil, fel gosod ffyrdd, llwybrau a pharciau ar y safle, gyda’r bwriad o orffen y gwaith hwnnw o fewn 16 mis.

Bydd y gwaith adeiladu tai yn dechrau’r flwyddyn nesaf, a’r targed yw ei orffen mewn chwech i saith mlynedd.

Mae datblygwyr y safle wedi dweud eu bod nhw’n parhau i drafod â thrigolion lleol sydd eisoes yn byw yn yr ardal ac yn eu sicrhau y bydd unrhyw sŵn neu aflonyddu yn cael ei gadw i’r lefel ‘lleiaf posibl’.

Creu ‘cymuned newydd fywiog’

“Mae’n wych gweld fod gwaith ar y gweill ar yr hyn a fydd yn brosiect allweddol i adnewyddu a gweddnewid hen safle melin bapur yn gymuned newydd fywiog,” meddai Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Edwina Hart.

“Nid yn unig y bydd yn darparu cannoedd o gartrefi newydd y mae eu gwir angen, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy, ond daw hefyd â buddsoddiad i’r ardal hon o Gaerdydd gan greu llawer iawn o swyddi yn y diwydiant adeiladu.”

Dywedodd cwmni Tirion y bydd hyd at 1,000 o swyddi yn cael eu creu wrth i’r gwaith ar y prosiect ddechrau.

“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol sydd wedi’i seilio ar fodel ariannol arloesol,” meddai John Lovell, cadeirydd Datblygiadau Tirion.

“Rydym yn credu y bydd yn creu bwrlwm a ddaw â bywyd newydd i lawer o safleoedd diwydiannol eraill sydd wedi’u hesgeuluso ac yn creu cymunedau bywiog ble bydd pobl eisiau byw.”

Gobeithio am brosiectau eraill ledled Cymru

Dywedodd Cymdeithas Adeiladu’r Principality, eu bod nhw’n gobeithio bod yn rhan o brosiectau tebyg ledled Cymru yn y dyfodol.

Bydd y gymdogaeth newydd yn cael ei rheoli gan Gymdeithas Dai Cadwyn, a ddywedodd fod “mawr angen” cartrefi fforddiadwy fel hyn yn y ddinas.

“Mae’r prosiect hwn yn gyfle unigryw i greu cymuned ffyniannus newydd sbon yng nghanol Caerdydd a bydd Cadwyn yn chwarae rhan bwysig mewn gwireddu hyn,” meddai ei Phrif Weithredwr, Chris O’Meara.