Mae Heddlu’r Gogledd wedi amgylchynu tŷ yn Wrecsam prynhawn ma yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn ardal Coed Aben, Wrecsam tua 1:05yp prynhawn  dydd Mercher, 16 Rhagfyr,  yn dilyn adroddiadau bod dyn, y credir sy’n byw yn y tŷ, yn gwrthod gadael yr adeilad.

Mae’n debyg nad oes unrhyw un arall yn y tŷ.

Mae swyddogion yr Heddlu wedi amgylchynu’r eiddo gyda’r bwriad o “amddiffyn y cyhoedd ac yna sicrhau bod y dyn yn gadael y tŷ yn ddiogel.”

Mae trafodwyr arbenigol hefyd wedi cael eu hanfon i’r safle er mwyn ceisio datrys y mater yn heddychlon.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i’r cyhoedd i gadw draw o’r ardal.