Alice Hooker Stroud
Mae’r Blaid Werdd yng Nghymru wedi cyhoeddi pwy yw ei harweinydd newydd wedi i’w cyn-arweinydd gamu o’r neilltu.

Alice Hooker Stroud o Fachynlleth sy’n olynu Pippa Bartolotti a hi yw’r arweinydd ieuengaf o’r pleidiau yn y Deyrnas Unedig.

Alice Hooker Stroud fydd yn gyfrifol am arwain ei phlaid yn etholiadau’r Cynulliad fis Mai nesaf a Hannah Pudner, ymgeisydd dros Orllewin Caerdydd yn yr etholiadau, sydd wedi cael ei hethol yn ddirprwy arweinydd.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud wrth i’r blaid agor ei swyddfa ymgyrchu newydd yng Nghaerdydd.

“Gallwn a byddwn yn ennill seddi”

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous ar gyfer y Blaid Werdd yng Nghymru, rydym yn mynd i etholiadau’r Cynulliad fel plaid benderfynol a llawn bywyd, gallwn a byddwn yn ennill seddi,” meddai Alice Hooker Stroud.

“Mae gan y Blaid Werdd yng Nghymru yr atebion i lawer o broblemau rydym yn eu hwynebu yn ein cymunedau. Atebion sydd nid yn unig yn mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol ond problemau amgylcheddol, lleol a phroblemau byd-eang hefyd.”

Dim ond 2.6% o’r bleidlais gafodd y Blaid Werdd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, ond roedd hynny rhyw chwe gwaith yn fwy na chawson nhw yn 2010.

Bydd Pippa Bartolotti nawr yn sefyll dros y blaid yng Ngorllewin Casnewydd yn ogystal â bod ar frig rhestr ranbarthol y Gwyrddion yn Ne Ddwyrain Cymru.