Stormtroopers o ffilmiau Star Wars
Wrth i ddilynwyr Star Wars gyffroi ar gyfer y ffilm ddiweddaraf fydd yn y sinemâu, mae hi wedi dod i’r amlwg bod rhai rhannau o Gymru’n teimlo grym y gyfres sci-fi yn gryfach nag eraill.

Fe fydd y diweddaraf yn y gyfres, Star Wars: The Force Awakens, yn cyrraedd sinemâu ar hyd a lled y wlad yr wythnos hon.

Ac yn ôl y Cyfrifiad diwethaf mae dros 8,000 o Gymry, ac 17,000 o bobl ar draws y DU, bellach yn cyfrif eu crefydd fel ‘Jedi’, sydd yn deillio o’r cymeriadau adnabyddus yn ffilmiau George Lucas.

Mae actorion fel Liam Neeson, Ewan McGregor, Hayden Christensen a Mark Hammill wedi chwarae rhan rhai o’r Jedi enwocaf o’r ffilmiau megis Luke Skywalker ac Obi Wan Kenobi.

Dros 1,000 yng Nghaerdydd

Mae’n debyg bod sawl un hefyd yn trigo yng ngorllewin gwyllt Cymru hefyd, os ydi’r data yn unrhyw dystiolaeth.

Rydych chi’n fwy tebygol o gyfarfod ‘Jedi’ yng Ngheredigion nac unrhyw sir arall yng Nghymru gyda 349 o drigolion y sir, neu un o bob 200 person, yn ei restru fel eu crefydd.

Does dim un sir arall yn dod yn agos at ganran Ceredigion o 0.46% y boblogaeth yn Jedis, ond mae gan Gaerdydd, Abertawe, Powys, Gwynedd, Sir Benfro a Bro Morgannwg i gyd ganrannau o dros 0.3%.

Dyw ‘grym’ y Jedi ddim yn gryf ym Merthyr Tudful fodd bynnag, gyda dim ond 0.17% o’i thrigolion yn ystyried eu hunain fel ymladdwyr dros gyfiawnder bydysawd Star Wars.

O ran niferoedd mae gan Gaerdydd dros 1,200 o Jedis yn llechu yn y brifddinas yn rhywle, tra bod dros 800 yn byw yn Abertawe a bron i 450 yn byw yn  Rhondda Cynon Taf.

‘Jedi’ Cymru

Awdurdod Lleol               Nifer     Canran

Ynys Môn                            131         0.19%

Gwynedd                            378         0.31%

Conwy                                  314         0.27%

Dinbych                                207         0.22%

Fflint                                      374         0.25%

Wrecsam                             300         0.22%

Ceredigion                          349         0.46%

Powys                                   414         0.31%

Sir Gâr                                   386         0.21%

Sir Benfro                            373         0.30%

Abertawe                            821         0.34%

Castell-nedd Port Talbot  255      0.18%

Pen-y-bont                         312         0.22%

Rhondda Cynon Taf        544         0.23%

Merthyr Tudful                 102         0.17%

Bro Morgannwg               379         0.30%

Caerdydd                            1,239     0.36%

Caerffili                                                393         0.22%

Blaenau Gwent                 148         0.21%

Torfaen                                                216         0.24%

Casnewydd                        376         0.26%

Sir Fynwy                             248         0.27%