John Albert Evans Llun: Gwales
Mae cyn-gadeirydd Canolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn wedi marw yn 78 oed.

Roedd John Albert Evans yn wreiddiol o Fwlchllan, Ceredigion, a bu’n gweithio am flynyddoedd ym maes Cymraeg ail iaith gan gyfrannu at godi proffil dysgwyr Cymraeg.

Bu’n dysgu mewn ysgolion cynradd am flynyddoedd, cyn dod yn diwtor iaith ac yn Brif Ymgynghorydd Iaith Canol Morgannwg.

Roedd hefyd yn gefnogwr i glwb pêl-droed Caerdydd, lle’r oedd yn byw.

Ar raglen y Post Cyntaf y bore yma, fe ddywedodd  John Walter Jones fod “Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn yn agos iawn at ei galon a bu’n mynd ’nôl a ’mlaen o Gaerdydd i’r gogledd yn gyson am flynyddoedd.

“Fe wnaeth o ei ran, heb os, yn codi’r lle i fod yn ganolfan genedlaethol – i fod yn fan i ddysgu Cymraeg.”

Fe gyhoeddodd ei hunangofiant yn 2010, sef Llanw Bwlch, sy’n sôn am ei fagwraeth yng Ngheredigion, ei gyfnod fel myfyriwr ym mhrifysgol Aberystwyth a’r Coleg Normal ym Mangor.

Yn ei hunangofiant, mae’n sôn am ei gyfnod fel Cadeirydd Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, ac am ei brofiadau yn dysgu Cymraeg i bobol fel y gwleidydd Ron Davies a’r pêl-droediwr Mark Aizelwood.